Coleg Caerdydd a’r Fro yn ennill Arian yng Ngwobrau Iechyd a Lles y Meddwl Cymru am ei gefnogaeth i’w ddysgwyr

23 Hyd 2022

Mae tîm Lles Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Arian yng Ngwobrau Iechyd a Lles y Meddwl Cymru am Effaith Eithriadol mewn Addysg.

Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan y cwmni budd cymunedol Sefydliad Adjuda, yn cydnabod yr unigolion a’r sefydliadau sy’n mynd yr ail filltir i hybu iechyd a lles y meddwl. Mae’r Wobr Effaith Eithriadol mewn Addysg yn cydnabod yr addysgwyr sydd wedi cymryd camau i oresgyn rhwystrau i drafod iechyd meddwl yn agored a chreu amgylchedd lle mae dysgwyr yn cael eu hannog ac yn teimlo’n gyfforddus i siarad am eu hiechyd meddwl.

Mae gan CAVC dîm Lles penodol sy’n cynnig ystod eang o gefnogaeth i ddysgwyr a all fod yn wynebu amrywiaeth o broblemau fel pryderon iechyd meddwl, problemau cyffuriau neu alcohol, pryderon perthnasoedd ac iechyd rhywiol neu broblemau teuluol. Mae gan bob uno gampysau’r Coleg Hwb Llesiant lle gall y dysgwyr gael mynediad at eiriolaeth a chymorth cyfeirio, gofyn am gefnogaeth ac arweiniad mewn lle diogel, cael mynediad at y cynllun Cerdyn C neu rannu eu meddyliau a’u teimladau.

Yn 2021 enillodd CAVC Wobr AB TES fawreddog yn y categori Cymorth i Ddysgwyr, gan gydnabod ymrwymiad y Coleg i ddiogelu iechyd a lles meddyliol ei ddysgwyr.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i’r tîm Lles! Mae’r digwyddiadau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni bwysigrwydd hanfodol iechyd a lles y meddwl, ac yn CAVC mae diogelwch a lles ein dysgwyr ni wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, felly mae ennill y wobr yma’n golygu llawer.”