Coleg Caerdydd a’r Fro yn ailddatgan ei ymrwymiad i Gymru wrth-hiliol yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon

13 Hyd 2022

Wrth i’r byd ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ailddatgan ei ymrwymiad i fod yn llais blaenllaw ar y siwrnai wrth-hiliaeth yn y byd addysg yng Nghymru.

Prif Weithredwr Grŵp CAVC, Mike James, yw Cadeirydd Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i ganolbwyntio ar rannu arfer da a chamau gweithredu ystyrlon y gall colegau a’r sector Addysg Bellach eu cymryd – canolbwyntiodd y cyfarfod diweddaraf ar dri phrif faes, sef Cymru Wrth-Hiliol, Deddf Cydraddoldeb 2010, a chefnogi cymunedau LGBTQ.

Mae CAVC hefyd yn arwain ar y prosiect deunyddiau gwrth-hiliaeth, gan chwarae rhan allweddol mewn datblygu deunyddiau cwricwlwm ar gyfer y sector AB.

Ym mis Mai, roedd CAVC yn falch o groesawu Zara Mohammed, yr Ysgrifennydd Cyffredinol Benywaidd cyntaf ar gyfer Cyngor Mwslimaidd Cymru. Cafodd gyfarfod ac ymgysylltu â staff a dysgwyr. Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd CAVC Seremoni Cofio Srebrenica gyda’r Prif Weinidog a Mike James yn ailddatgan yr ymrwymiad ar y cyd i gofio hil-laddiad Bosnia a symud tuag at Gymru wrth-hiliol.

Yn gynharach eleni, CAVC oedd y coleg cyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod cyswllt o’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Nod y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon yw dod yn llais awdurdodol dros wrth-hiliaeth mewn AB, ysgolion, y sectorau gwirfoddol a phreifat a hyrwyddo buddiannau pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol a gosod diwylliant gwrth-hiliaeth wrth wraidd pob agwedd ar fywyd, addysg a gwaith yn y DU.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i Gynllun Deg Pwynt y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon i ddileu hiliaeth mewn AB drwy sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu profiad pobl o leiafrifoedd ethnig; ymgorffori cydraddoldeb hiliol mewn hyfforddiant staff, mynd i'r afael â bylchau mewn cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ymhlith myfyrwyr, staff a llywodraethwyr; mynd i'r afael ag anghydbwysedd mewn amrywiaeth yn ystod prosesau recriwtio; a sicrhau bod yr holl gyfathrebu mewnol ac allanol yn adlewyrchu triniaeth deg i staff, myfyrwyr a chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.

Mabwysiadodd CAVC y dull hwn o weithredu yn ddiweddar yn ei rownd ddiweddaraf o hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus i staff. Roedd hyn yn cynnwys cynhadledd Profiad a Rennir Pobl Dduon gyda’r staff yn rhannu eu profiadau ag eraill i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth. Bu'n llwyddiant mor ysgubol ymhlith holl staff y Coleg fel y bydd y gynhadledd yn cael ei defnyddio mewn hyfforddiant DPP yn y dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp CAVC, Mike James: “Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydyn ni’n gweld ein hunain wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac maen nhw’n rhai o’r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru.

“Dyma pam rydyn ni wedi ymuno â’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon ac wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar Gymru wrth-hiliol. Fel y coleg mwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf yn y DU, gallwn ddefnyddio ein sefyllfa i sicrhau bod AB yn defnyddio dull hollgynhwysol o reoli a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws popeth rydyn ni’n ei wneud.”

Dywedodd Amarjit Basi, Cyfarwyddwr y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon: “Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon yn falch iawn o fod yn cefnogi CAVC, wrth iddo barhau ar ei siwrnai wrth-hiliaeth. Er bod pethau yn eu dyddiau cynnar o hyd, rydyn ni’n credu bod eu hymrwymiad i sicrhau newid sefydliadol llwyr i alluogi Cymru wirioneddol wrth-hiliol erbyn 2030 y peth iawn i’w wneud, er budd ei holl fyfyrwyr, staff a chymunedau.”