Coleg Caerdydd a’r Fro yn llofnodi Siarter Dying to Work y TUC i ddangos ymrwymiad i gyflogeion sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd

11 Hyd 2022

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cadarnhau ei ymrwymiad parhaus i roi gwarchodaeth ychwanegol i staff sydd â salwch angheuol yn y gwaith drwy lofnodi’r Siarter Dying to Work.

Mae’r siarter, sy’n cael ei hyrwyddo gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC), yn adeiladu ar ymrwymiad CAVC i roi mwy o sicrwydd swydd ac ariannol i staff ar adeg o straen emosiynol ac ansicrwydd sylweddol.

Mae deddfwriaeth Nawdd Cymdeithasol y DU yn diffinio salwch angheuol fel “clefyd cynyddol lle gellir yn rhesymol ddisgwyl marwolaeth o ganlyniad i’r clefyd hwnnw o fewn chwe mis”. Fodd bynnag, mae’r TUC yn nodi y gall llawer o gleifion â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd oroesi am lawer hirach na hynny ac, os ydynt yn dewis parhau i weithio neu’n methu gwneud hynny, dylent allu disgwyl help a chefnogaeth gan eu cyflogwr.

Dywedodd Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Un o’n hasedau mwyaf ni fel Coleg yw Teulu CAVC ac mae ein staff ni’n rhan werthfawr o hynny. Dyma pam rydyn ni’n falch o fod wedi llofnodi’r Siarter Dying to Work, gan ei bod yn hanfodol bod pobl yn cael yr holl gefnogaeth sydd arnyn nhw ei hangen yn ystod cyfnod anodd a bydd yr ymrwymiad yma’n helpu i roi tawelwch meddwl i gyflogeion a’u teuluoedd.”