Uchelgais iach - Olivia, Prentis GIG Coleg Caerdydd a'r Fro yn cystadlu am Wobrau Prentisiaethau Cymru

3 Hyd 2022

Mae Olivia Headley-Grant, prentis sydd wedi'i hyfforddi gan Goleg Caerdydd a'r Fro, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae Olivia'n cael ei chyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ymunodd Olivia, 18 oed o'r Barri, â thîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym maes cynllunio strategol fel prentis yn ystod y pandemig ac ym mis Tachwedd y llynedd cwblhaodd Brentisiaeth Sylfaen City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes, a gyflwynir gan Goleg Caerdydd a'r Fro.

Mae uchelgais y prentis Olivia Headley-Grant i wneud pethau'n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn heintus yn ei thîm.

Dyna farn Cath Doman, Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n dweud: "Mae Olivia yn sefyll allan oherwydd ei gwaith caled, ei hymrwymiad, ei gwytnwch i newid a'i pharodrwydd i sicrhau gwell. Rydyn ni'n dîm gwell, ac yn GIG gwell, oherwydd y rôl hanfodol mae Olivia yn ei chwarae.”

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at gyflawniadau eithriadol, yn ystod cyfnod digynsail, gan gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu yn y gwaith. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.

A hwythau'n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu yn y gwaith, caiff y gwobrau eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a'u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Y prif noddwr am y drydedd flwyddyn yw Openreach.

Mae Olivia wedi creu argraff ar bawb gyda'i gwaith i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar amrywiaeth o brosiectau ar draws y GIG, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i helpu i wella profiad pobl o ofal drwy wasanaethau cydgysylltiedig.

Er iddi orfod gweithio o bell yn ystod y pandemig, fe wnaeth Olivia ffynnu yn ystod ei phrentisiaeth. Cyfrannodd at Brotocol Pontio Anableddau Dysgu Caerdydd a'r Fro a'r Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol, sy'n casglu data gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn taflu goleuni ar yr effaith y maent yn ei chael ar bobl ar draws y rhanbarth.

Ar ôl cael swydd barhaol fel cynorthwyydd gweinyddu, gofynnwyd i Olivia ddarparu cymorth rheoli dyddiadur i gyfarwyddwr ac mae hi a'i thîm wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau cydnabod staff y bwrdd iechyd.

Mae hi hefyd yn dysgu siarad Cymraeg oherwydd pwysigrwydd yr iaith yn y GIG a sefydliadau partner, wrth iddi geisio datblygu ei gyrfa.

"Yn sgil fy mhrofiad ar fy mhrentisiaeth, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn rheoli prosiectau," meddai. "Rwy'n bwriadu dilyn cwrs mewn rheoli prosiectau, fel PRINCE2, yn y dyfodol agos.”

Canmolodd Cath Olivia am feithrin perthynas gref gyda'r tîm a'r gwasanaeth ac arweinwyr gweithredol ar draws y GIG ac awdurdodau lleol.

"Mae wedi bod yn bleser pur gweld Olivia yn tyfu'n aelod hyderus a gwerthfawr o’r staff," meddai. "Mae hi'n herio ei hun yn gyson i wneud pethau'n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon - lefel o uchelgais sy'n heintus ac wedi sbarduno'r tîm i wneud yn well.”

Wrth longyfarch Olivia a'r holl rai eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: "Mae prentisiaethau'n gwneud cyfraniad enfawr i'n heconomi a byddant yn hanfodol wrth i Gymru barhau i fownsio’n ôl o'r pandemig.

"Gallant helpu i ysgogi, arallgyfeirio a pharatoi’r gweithlu at y dyfodol, gan gynnig cyfle i bobl feithrin sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel.

"Fel rhan o'n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.

"Rydym eisiau cynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella eu bywydau. Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau a bylchau yn y sectorau blaenoriaeth sy'n hanfodol i sbarduno cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus bob dydd.”

Dywedodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Llongyfarchiadau i Olivia - rydyn ni i gyd mor falch ohoni! Yn CAVC rydyn ni'n credu'n gryf mewn dysgu sy'n seiliedig ar waith a gall prentisiaid gyfrannu at weithlu Cymru a’r economi ehangach felly mae gweld talent Olivia yn cael ei gydnabod fel hyn yn anhygoel.

"Pob lwc gyda'r gwobrau Olivia, a da iawn i bawb sydd wedi'i chefnogi i gyrraedd mor bell â hyn!”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.