Gwasanaeth gwych – bwyty Coleg Caerdydd a’r Fro, Y Dosbarth, yn cadw ei Ruban AA i Golegau

27 Ion 2022

Mae Y Dosbarth, sef bwyty nodedig Coleg Caerdydd a’r Fro ar Gampws Canol y Ddinas, wedi cadw ei Ruban AA i Golegau.

Mae Rhubanau’r AA i Golegau yn cael eu dyfarnu i fwytai sy'n gweini bwyd sydd wedi'i baratoi gyda gofal, dealltwriaeth a sgil, ac sy'n cyrraedd safonau sy'n unigryw yn yr ardal leol. Dyfarnwyd Rhuban AA i Golegau cyntaf Cymru i fwyty Y Dosbarth yn 2017.

Yn dilyn ymweliad â’r bwyty am bryd o fwyd, nododd arolygydd yr AA y canlynol am Y Dosbarth:

“Ar y cyfan, lleoliad gwych i fwynhau naill ai ginio neu swper. Mae’n ofod glân ac agored gyda golygfeydd godidog dros y ddinas. Golau naturiol rhagorol gydag apêl ychwanegol y golygfeydd i'r gegin hefyd.

“Gellir cael diodydd cyn y bwyd yn y bar bychan, sydd â gwaith celf gwych sydd wir yn cyfleu nodweddion gwin. Mae’r byrddau yn edrych yn dda / gofod da rhyngddynt, gan ddarparu llwyfan dysgu gwych i’r myfyrwyr.”

Hefyd fe dynnodd sylw at ‘ffactorau waw’ arbennig fel y golygfeydd “trawiadol” o Gaerdydd, bwydlenni wedi’u cyflwyno’n dda a thymhorol, coginio o safon, y “theatr ychwanegol” o gael cynllun agored gyda golygfeydd i mewn i’r gegin a mentora gwych ar gyfer y dysgwyr, sy'n rhoi cyfle iddynt ddatblygu a thyfu.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Mae’r ffaith bod Y Dosbarth yn cadw ei Ruban AA i Golegau er iddo orfod wynebu’r heriau sydd wedi taro’r sector lletygarwch oherwydd COVID-19 yn gyflawniad gwych.

“Mae’r achrediad Rhuban ac aur yma’n dyst i waith caled ac ymrwymiad ein myfyrwyr dawnus ni a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n eu hyfforddi nhw. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.”