Mae Gwenllian Mellor, myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn hedfan i Efrog Newydd yr haf yma i gymryd rhan yn Rhaglen Haf Conservatoire Efrog Newydd ar gyfer y Celfyddydau Dramatig.
Mae Gwenllian wedi cael lle yn y Conservatoire nodedig drwy ysgoloriaeth rannol gyda chymorth ei thiwtor a thîm Gyrfaoedd a Syniadau’r Coleg.
“Mae’n teimlo’n hollol swreal, a dweud y gwir rydw i’n methu credu,” dywedodd Gwenllian am y newyddion ei bod wedi cael ei derbyn ar y Rhaglen. “Dwi wedi cyffroi yn lân!
“Rydw i wastad wedi bod eisiau astudio yn Efrog Newydd oherwydd y cyfleoedd anhygoel sydd ar gael. Felly fe wnes i ofyn i’r Coleg a oedd ganddyn nhw gynghorydd gyrfaoedd y gallwn i siarad ag ef am fy uchelgeisiau, ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio i at y fenyw fwyaf anhygoel a helpodd fi drwy’r broses ymgeisio gyfan.”
Mae’r ferch 17 oed o Bontyclun yn astudio Safon Uwch mewn Astudiaethau Dawns, Drama a Ffilm yn CAVC ac yn bwriadu bod yn actor proffesiynol.
“Rydw i wrth fy modd yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro,” meddai. “Mae faint o annibyniaeth rydych chi’n ei gael yn anhygoel ac mae'r athrawon yno i'ch cefnogi chi ym mhob cam.
“Fe wnaeth fy athrawes ddrama wych i anfon gwybodaeth ataf i am glyweliadau ar gyfer rhai ffilmiau byr gyda’r cwmni It’s My Shout – ac yn y diwedd fe ges i ddwy rôl fach a chael ymddangosiad byr mewn nid un, ond dwy o’r ffilmiau! Fe gawson nhw eu darlledu ar BBC2 Wales ychydig wythnosau yn ôl ac maen nhw bellach ar gael ar BBC iPlayer!”
Mae Gwenllian yn gwneud cais i ysgolion ffilm yn Llundain i astudio yno ar ôl ei harholiadau Safon Uwch a'r haf yn astudio yn Efrog Newydd.
“Fe wnes i ddewis astudio yn CAVC oherwydd ei leoliad gwych a’i enw da,” meddai. “Mae cael coleg mor agos at ganol dinas Caerdydd yn cynnig cymaint mwy o gyfleoedd nag unrhyw goleg arall mewn lleoliad gwahanol.
“Ac mae’n fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau yn sicr – mae fy athrawon i’n rhoi cymaint o gefnogaeth i mi ac yn fy annog drwy’r amser gyda fy uchelgeisiau!”
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau Gwenllian! Mae mynd i astudio yn Conservatoire Efrog Newydd ar gyfer y Celfyddydau Dramatig yn gyfle mor anhygoel.
“Da iawn i Gwenllian ac i’r holl staff ar draws y Coleg wnaeth ei chefnogi i gyflawni’r hyn a fydd yn brofiad a fydd yn newid ei bywyd.”