Haf o hwyl i'r teulu cyfan gyda CAVC yn Neuadd Llanrhymni

24 Medi 2021

Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro ganolfan allgymorth yn Neuadd hanesyddol Llanrhymni a thros gyfnod gwyliau'r haf cyflwynodd gyfres o weithgareddau hwyliog i'r teulu cyfan.

Wedi'i threfnu gan dîm Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu (PWLL) y Coleg, ochr yn ochr â thîm Creadigol Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni a phartner CAVC, y Weinyddiaeth Addysg Bywyd, cynhaliwyd cyfres o bron i 50 sesiwn ac ymgysylltwyd â mwy na 730 o bobl o bob oedran yn ystod y cyfnod o chwe wythnos dros yr haf.

Cyflwynwyd ystod eang o sesiynau a gweithdai gan staff CAVC ac roeddent yn cynnwys gweithdai Celf a Chrefft, Chwaraeon, Cerddoriaeth a DJ, Drymio Affricanaidd, Chwarae Creadigol, Gwau a Sgwrsio a Garddio a Garddwriaeth.

Dywedodd Cat Pargeter - Swyddog Prosiect yn Neuadd Llanrhymni - “Roedd rhaglen yr haf yn gyffrous iawn. Roedd yn gyfle gwych i weithio gyda llawer o wahanol bobl a dangos yr hyn mae'r neuadd yn gallu ei wneud. Profodd y Clybiau’n boblogaidd gyda’r gymuned ac rydyn ni wedi cael adborth hyfryd gan rieni.”

Cymerodd y tîm ran hefyd ym Marbeciw Cymunedol a Diwrnod Hwyl yr Haf Neuadd Llanrhymni ar 7fed Awst, gan ddarparu ystod o weithdai a chyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Dywedodd un rhiant, Adele: "Mae wedi bod yn hyfryd cael y rhaglen yma ar garreg fy nrws. Doedden ni ddim yn gallu mynd ar wyliau eleni ac mae'r rhaglen yma wedi bod yn anhygoel gan ddifyrru fy mab."

Ychwanegodd un arall, Zoe: "Mae'n wych gweld y plant yn gallu defnyddio eu dychymyg."

Dywedodd Wayne Carter, Pennaeth PWLL CAVC: “Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau yng nghymuned Llanrhymni ac mae'r gwaith partneriaeth wedi cael effaith wirioneddol. Mae'r haf o weithgareddau hwyliog wedi rhoi hwb i'r cydweithrediad positif eisoes sydd gennym gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol Neuadd Llanrhymni a byddwn yn darparu amrywiaeth o raglenni addysgol, hyfforddiant a chymunedol drwy gydol y flwyddyn.”