Myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn trechu’r cyfnod clo ac yn sicrhau llwyddiant Safon Uwch a BTEC

10 Awst 2021

Er gwaethaf wynebu blwyddyn wahanol i unrhyw un arall, mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu canlyniadau Safon Uwch a BTEC rhagorol heddiw, gan sicrhau lle yn y prifysgolion gorau a llwybrau cynnydd rhagorol.

Eleni gwelodd y Coleg fwy o fyfyrwyr nag erioed yn ennill Safon Uwch, gyda'r nifer uchaf erioed o 569 o ddysgwyr yn cael eu canlyniadau heddiw ac yn dathlu cyfradd lwyddiant wych o 96% mewn Safon Uwch.

Mae'r canlyniadau'n adeiladu ar y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y myfyrwyr sy'n ennill graddau A, gyda bron i 170 o fyfyrwyr yn ennill graddau A*-A a 15 o ddysgwyr yn ennill o leiaf dair A neu uwch. O'r mwy na 30 o feysydd pwnc a gynigir gan CAVC, mae’r meysydd sydd wedi perfformio orau ar gyfer A*-A yn cynnwys Celf Gain, Mathemateg a Mathemateg Bellach, Ffrangeg, Sbaeneg, Drama, Astudiaethau Crefyddol, Addysg Gorfforol, Hanes a Seicoleg.

Mae'r rhai sy'n astudio cymwysterau BTEC Lefel 3 ochr yn ochr â Safon Uwch neu yn eu lle yn cael gwybod beth yw eu graddau terfynol ar yr un diwrnod, a pherfformiodd myfyrwyr CAVC yn wych.

Fel un o'r darparwyr mwyaf ar gymwysterau BTEC yn y wlad, astudiodd rhyw 825 o fyfyrwyr gymwysterau BTEC yn y Coleg yn 2020-21, mewn pynciau’n amrywio o Seibr Ddiogelwch i Chwaraeon, Ffotograffiaeth a Gwyddoniaeth Gymhwysol. Mae'r rhai sy'n ennill graddau BTEC heddiw hefyd yn ennill pwyntiau UCAS, yn union fel dysgwyr Safon Uwch. Eleni cafodd 30% o ddysgwyr raddau anrhydedd ac mae llawer yn symud ymlaen i brifysgol.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rwy’n hynod falch o weld cymaint o’n myfyrwyr ni’n gwneud cystal o dan amgylchiadau hynod heriol.

“Mae wedi bod mor galonogol gweld staff a myfyrwyr yn dod at ei gilydd i oresgyn yr anawsterau a achoswyd gan gyfnodau clo a chyfyngiadau COVID-19. Mae gwaith caled a phenderfyniad y myfyrwyr wedi talu ar ei ganfed, a heddiw gallwn ddymuno’n dda iddyn nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen naill ai i ddysgu pellach, prifysgol neu gyflogaeth.

“Diolch i’r myfyrwyr a’r staff am weithio mor ymroddedig i sicrhau'r llwyddiannau yma."

Coleg Caerdydd a’r Fro yw un o'r darparwyr Safon Uwch mwyaf yn y Brifddinas-Ranbarth, gan gynnig mwy na 30 o gyrsiau gwahanol, wedi'u lleoli ar Gampws Canol y Ddinas nodedig y Coleg gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys labordai gwyddoniaeth, stiwdios dawns, theatr ac ystod eang o fannau addysgu penodol i bynciau. Mae ganddo hefyd Raglen Ysgolheigion boblogaidd wedi’i chynllunio i helpu’r dysgwyr i fynd i’r prifysgolion gorau.

Bydd nifer fawr o fyfyrwyr CAVC yn symud ymlaen nawr o gymwysterau Safon Uwch a BTEC i Addysg Uwch, gan gynnwys Oxbridge, prifysgolion Grŵp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Un myfyriwr sydd wedi gwneud y gorau o'r hyn sydd gan CAVC i'w gynnig yw'r myfyriwr Safon Uwch Oscar Griffin. Roedd Oscar yn un o’r criw cyntaf i astudio opsiwn Clasuron Safon Uwch newydd y Coleg, ac ar ôl ennill gradd A* mewn Clasuron a Llenyddiaeth Saesneg ac A mewn Hanes, mae’n mynd i astudio Lladin a Groeg Clasurol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

“Rydw i mor gyffrous am fynd i Gaergrawnt ac mor falch bod gwaith caled fy nhiwtoriaid i wedi talu ar ei ganfed - Danny Pucknell yn arbennig!,” meddai Oscar.

“Mae fy nhiwtoriaid i yn y Coleg wedi bod yn anhygoel ac rydw i’n bendant yn credu bod fy amser i yn CAVC wedi fy helpu i gyrraedd y nod yma.”

Ymunodd Oscar hefyd â Rhaglen Ysgolheigion CAVC, sydd wedi'i chynllunio i gynnig cyfle i ddysgwyr ehangu eu profiad dysgu y tu hwnt i'r Cwricwlwm Safon Uwch traddodiadol. Mae hefyd yn cynnig cefnogaeth gyda cheisiadau i brifysgolion elitaidd.

“Roedd y Rhaglen Ysgolheigion wir yn sefyll allan fel cyfle, oherwydd rydych chi'n cael rhyngweithio a dysgu sgiliau meddwl beirniadol gyda phobl a allai fod ar lwybr academaidd tebyg i chi,” esboniodd.

“Rydw i’n bendant yn credu bod y Coleg wedi fy helpu i gyflawni fy nodau. Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu cefnogol a gwych. Rydw i wedi mwynhau astudio fy holl gyrsiau yn fawr. Rydw i'n credu ei fod yn amgylchedd braf iawn i astudio ynddo.

“Mae fy athrawon i gyd wedi bod yn gefnogol iawn, hyd yn oed drwy ddysgu ar-lein, ac rydw i’n credu ei bod yn braf iawn bod mewn amgylchedd fel hyn.”

Myfyriwr arall sy'n credu iddi elwa o'r Rhaglen Ysgolheigion yw Joanna Korman. Ar ôl cael A* mewn Mathemateg Bellach ac A mewn Cemeg a Ffiseg, mae Joanna yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio gradd Meistr Integredig mewn Peirianneg Awyrofod.

“Rydw i’n teimlo’n wych! Rydw i wir yn falch ohono i fy hun am allu cyflawni’r canlyniadau yma mewn cyfnod mor anodd, ”meddai. “Fe wnes i ddewis astudio Safon Uwch yn CAVC oherwydd roeddwn i'n teimlo y byddwn i'n cael mwy o gyfleoedd yma nag y byddwn i yn fy ysgol uwchradd. Roeddwn i hefyd yn gallu dewis y cyrsiau roeddwn i eisiau eu dilyn.

“Rydw i wir wedi mwynhau fy amser yn CAVC yn fawr. Rydw i'n teimlo mai hwn oedd y dewis iawn i mi yn bendant. Fe wnes i fwynhau'r rhaglen Ysgolheigion yn fawr iawn - roedd nifer y cyfleoedd gawson ni’n anhygoel, fel mynd i gystadleuaeth STEM a gynhaliwyd gan brifysgol.

“Rydw i’n teimlo bod fy amser i yma yn bendant wedi fy helpu i gyflawni fy nodau mewn ffordd na fyddai gwneud Safon Uwch mewn ysgol uwchradd wedi gwneud. Fe gefais i brofiadau gwych ac athrawon a staff rhyfeddol."

Harri Williams oedd Capten Academi Rygbi’r Coleg ac astudiodd BTEC mewn Dylunio Cynnyrch. Graddiodd gyda graddau D* D* D* ac mae'n symud ymlaen i Brifysgol Loughborough i astudio Rheolaeth Fasnachol ac Arolygu Meintiau.

“Roedd cael y tair gradd uchaf yn y Diploma BTEC Estynedig yn anhygoel ac mae hyn wedi galluogi i mi fynd i'r brifysgol o fy newis i astudio cwrs rydw i wir yn teimlo’n angerddol yn ei gylch,” meddai Harri.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i Loughborough. Mae ganddyn nhw Gyfadran Beirianneg wych ac maen nhw ar frig tablau'r gynghrair ar gyfer y cwrs. Fel CAVC, mae’r rhaglen rygbi hefyd yn gadarn iawn ac rydw i’n ymhyfrydu yn yr her o gystadlu am le yn nhîm rygbi BUCS.”

Roedd Academi Rygbi CAVC, lle gall chwaraewyr ddatblygu eu sgiliau ar y cae ac yn yr ystafell ddosbarth, yn ffactor wnaeth ei ysgogi i ddod i CAVC.

“Er gwaethaf pandemig COVID, mae fy amser i yn CAVC wedi bod yn wych,” meddai. “Mae'r gefnogaeth gefais i gan diwtoriaid fy nghwrs wedi bod yn wych. Oherwydd eu harweiniad a'u cefnogaeth wnes i lwyddo i gael graddau cystal.

“Roedd y rhaglen rygbi yn rhan o’r rheswm i mi ddewis dod i CAVC. Roedd cael y cyfle i gael addysg o safon uchel a chwarae rygbi ar lefel uchel yn hynod o bwysig i mi ac fe gynigiodd CAVC hynny i gyd.”

Mae'n credu bod ei amser yn CAVC yn hanfodol iddo symud ymlaen i Loughborough.

“’Fyddwn i ddim yn mynd i Loughborough oni bai ’mod i wedi dewis CAVC ar gyfer fy astudiaethau ôl-16,” meddai Harri. “Am hynny fe fyddaf yn fythol ddiolchgar.”

Astudiodd Harry Birch BTEC yn CAVC hefyd, yn ei achos ef Chwaraeon. Ar ôl graddio gyda thri dyfarniad clod, mae'n mynd i’w ddewis cyntaf o brifysgol, Bournemouth, i astudio Meddygaeth Ceiropracteg.

“Rydw i’n hapus iawn fy mod i wedi cael y graddau,” meddai. “Fe wnes i weithio’n galed iawn ac fe helpodd fy athrawon fi i gyrraedd y brifysgol roeddwn i eisiau mynd iddi.”

Mae’n teimlo mai'r Coleg oedd y dewis iawn iddo.

“Doedd y syniad o fynd yn ôl i’r ysgol ddim i mi,” esboniodd Harry. “Ac roedd gwybod y gallwn i fynd i’r brifysgol drwy wneud BTEC yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi agor llawer o ddrysau i mi.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn CAVC yn fawr iawn a chyfarfod â chymaint o bobl newydd a gwneud ffrindiau oes ac roedd y staff yn rhagorol hefyd. I mi, y peth oedd yn sefyll allan oedd pa mor dda oedd yr athrawon yn ein helpu ni gyda'n dysgu a pha mor awyddus oedden nhw i’n cael ni i gyrraedd lle bynnag oedden ni eisiau mynd - fe wnaeth hynny fy ysgogi i'n fawr."

Mae Laurie Powell wedi cael A mewn Astudiaethau Ffilm, Dylunio Graffig a Ffotograffiaeth, a bydd yn dechrau gradd Ffilm ym Mhrifysgol Falmouth y tymor nesaf.

Roeddwn i’n falch iawn o gael y canlyniadau yma yn fy Safon Uwch,” meddai. “Mewn blwyddyn lle cafodd y pandemig effaith ar fy mywyd i a fy ngwaith Coleg, roeddwn i’n falch o weld y canlyniadau yma.

“Fe wnes i ddewis astudio yn CAVC am fod ganddyn nhw’r cyrsiau penodol roedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Diolch i'r cyrsiau hyn roeddwn i'n gallu ennill a datblygu'r sgiliau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer fy nghwrs prifysgol a'r yrfa rydw i’n dymuno ei dilyn y dyfodol."

Roedd Laurie yn benderfynol o beidio â gadael i ddigwyddiadau'r 17 mis diwethaf ei rhwystro.

“Er gwaethaf effaith amlwg y pandemig rydw i wedi mwynhau fy amser yn y Coleg,” meddai. “Mae'r bobl wnes i eu cyfarfod ar fy nghyrsiau, yr athrawon a'r myfyrwyr, wedi cael effaith gadarnhaol arna i, ac roeddwn i'n gallu cynnal agweddau cymdeithasol ac addysgol fy mywyd hyd yn oed drwy gydol y pandemig.”

Fe wnaeth ffocws creadigol y pynciau a astudiodd Laurie, a’i diwtoriaid, ei annog i ddilyn ei lwybr unigryw ei hun, gan ei alluogi i greu gwaith yr oedd yn ei fwynhau ac yn falch ohono.

Rydw i’n credu bod fy amser i yn CAVC wedi fy helpu i gyrraedd y nodau oedd gen i pan wnes i gais i’r Coleg,” meddai Laurie. “Roedd y gefnogaeth a gefais i gan fy athrawon a fy nghyfoedion drwy gydol fy nghyrsiau yn galluogi i mi ddatblygu a llwyddo yn greadigol ac yn academaidd.”

Ar ôl cael A mewn Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, TGCh a Mathemateg, mae Omar Sufer yn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i astudio Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, i'w helpu gyda’i uchelgais o fod yn Beiriannydd Meddalwedd.

“Rydw i’n teimlo’n hapus am fy nghanlyniadau oherwydd fy mod i wedi gweithio’n galed iawn i’w cael nhw, yn enwedig eleni oherwydd COVID-19,” meddai.

Penderfynodd Omar astudio ei gyrsiau Safon Uwch yn CAVC ar ôl mynychu Noson Agored a chael argraff dda gan y tiwtoriaid a chyfleusterau modern y Coleg.

“Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o’r Tîm Arweinydd Digidol Myfyrwyr anhygoel,” ychwanegodd. “Roedd athrawon Coleg Caerdydd a’r Fro a’r cyfleusterau bob amser ar gael i mi a oedd o gymorth mawr yn ystod tymor yr arholiadau, ac fe helpodd fi i ennill y graddau yma.”

Ar ôl cael A* mewn Celf a Mathemateg ac A mewn Ffiseg, mae Bianca Zerbini yn symud ymlaen i Brifysgol Caerfaddon i astudio Pensaernïaeth.

“Roedd gen i opsiwn i astudio yn chweched dosbarth fy ysgol uwchradd, ond roeddwn i'n meddwl y byddai CAVC yn fy mharatoi i’n well ar gyfer prifysgol a hefyd yn galluogi i mi gael mwy o annibyniaeth,” meddai Bianca.

“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Rydw i'n credu fy mod i wedi colli allan ar rai pethau gan fod COVID-19 wedi effeithio ar fy amser i yn CAVC, ond yn ystod y rhan fwyaf o’r cwrs UG roedden ni o dan amgylchiadau arferol, ac fe gefais i brofiad anhygoel. "

Fe wnaeth Bianca hefyd elwa o rai o'r cyfleoedd ychwanegol y gall astudio yn CAVC eu cynnig. “Fe wnes i gymryd rhan yn y rhaglen Barod am Yrfa a oedd yn werthfawr iawn gan roi ychydig o wybodaeth i mi am y farchnad lafur a sut i wneud fy hun yn fwy cyflogadwy,” esboniodd.

Mae ei chanlyniadau Safon Uwch yn golygu bod Bianca wrth ei bodd.

“Rydw i’n falch iawn ohono i fy hun ac yn hynod hapus gyda’r canlyniadau – rydw i’n credu bod fy holl waith caled i wedi talu ar ei ganfed yn y diwedd,” meddai. “’Allwn i ddim fod wedi disgwyl canlyniadau gwell!

“Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”

Os hoffech chi astudio cwrs Safon Uwch neu BTEC yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, neu astudio cwrs lefel prifysgol drwy system glirio CAVC, gwnewch gais nawr yn www.cavc.ac.uk.