Myfyrwyr Ffotograffiaeth Coleg Caerdydd a'r Fro yn rhagori er gwaetha’r cyfnodau clo a’r cyfyngiadau

2 Awst 2021

Nid yw myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro sy’n astudio’r Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth wedi gadael i gyfnodau clo a chyfyngiadau COVID-19 eu hatal ac maent wedi parhau i gynhyrchu gwaith syfrdanol ar gyfer cyfres o gleientiaid.

Comisiynwyd Martyn Wilson, myfyriwr Ffotograffiaeth yn ei ail flwyddyn, gan Creative Cardiff i gymryd rhan ym mhrosiect mawreddog grŵp Ein Caerdydd Greadigol. Roedd y comisiwn yma gyda thâl yn cynnwys ystod o wahanol ddisgyblaethau creadigol yn dod ynghyd i adrodd stori am eu Caerdydd hwy.

Nid oedd Martyn yn gallu credu pan ddaeth i wybod ei fod wedi cael ei ddewis. “Fe ddywedais i wrtha’ i fy hun, oherwydd fy mod i wedi cyflwyno’r cais hanner awr yn hwyr, ei fod yn brofiad da wrth wneud cais oherwydd doeddwn i erioed wedi gwneud cais am unrhyw beth o’r blaen,” meddai. “Wedyn roedd cael y comisiwn yn anhygoel. Roedd bod yn rhan o'r prosiect yma’n anrhydedd.”

Yn ffotograffydd stryd brwd, cychwynnodd Martyn ar ‘Fy nheulu pell cymdeithasol’, gan ganolbwyntio ar y pellter y mae pawb wedi gorfod ei gadw oddi wrth eu hanwyliaid yn ystod cyfnodau clo 2020.

“Fe ddechreuodd y diwrnod wnes i ymweld â fy mam a doeddwn i ddim yn gallu ei chofleidio hi, ac fe wnaeth i mi sylweddoli'r brwydrau yr oedd pobl yn eu profi yn ystod y cyfnod clo, ac felly’r noson cyn y dyddiad cau daeth y syniad am 'Fy nheulu pell cymdeithasol',” esboniodd Martyn. “Fe ddangosodd gweithio arno i mi sut roedd pobl yn teimlo.

“Fe helpodd fi i ymgysylltu â phobl tra roedden nhw’n profi cyfnod tywyll iawn yn eu bywydau. Roedd yn bleser gweithio arno ac fe ddangosodd i mi fy mod yn gallu gwneud mwy fel ffotograffydd.”

Mae'n credu bod y cwrs Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth wedi bod yn help mawr.

“Roedd yn bleser bod yn rhan o gwrs gyda phobl mor dalentog,” meddai. “Roedd tiwtoriaid y cwrs yn ddoniol ac yn anhygoel i fod yn eu cwmni ar unrhyw adeg.

“Fe wnaeth eu gwybodaeth a’u profiad fy helpu i dyfu drwy gydol y cwrs, ac roedd y caredigrwydd a’r tosturi a ddangoswyd yn brydferth, bob amser yn barod i fynd yr ail filltir i helpu.”

Bellach mae Martyn yn anelu at ddangos ei waith mewn mwy o orielau o amgylch Caerdydd ac edrych ar ba opsiynau fydd ar gael iddo fel ffotograffydd. Mae'n teimlo bod y Coleg wedi ei helpu i gyflawni rhai nodau allweddol.

“Heb y cwrs a’r profiad rydw i wedi’i gael dros y ddwy flynedd, ’fyddwn i ddim wedi cael yr hyder i godi camera na gwireddu fy mhotensial fel ffotograffydd,” meddai Martyn. “Fe helpodd fi i fowldio syniadau a ddechreuodd fel rhywbeth syml i gychwyn a nawr gallaf ysgrifennu cynlluniau manwl ar sut i'w cyflawni. Fe wnaeth hefyd fy helpu i weld gwaith llawer o ffotograffwyr nad oeddwn i’n gwybod eu bod yn bodoli diolch i’r tiwtoriaid ar y cwrs. ”

Comisiynwyd Martyn a'i gydfyfyrwyr hefyd gan DabApps, cwmni apiau o Gaerdydd a Brighton, ar gyfer prosiect gwaith celf dylunio mewnol.

“Fe wnaeth y briff byw a’r modiwl Lleoliad Gwaith alluogi’r myfyrwyr i ymgysylltu â busnes llwyddiannus a chreadigol ar brosiect real / byw,” esboniodd y tiwtor Ffotograffiaeth Paul Woffenden. “Fe ddefnyddiodd y myfyrwyr eu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu wrth weithio gyda'r cleient a dysgu'n gyflym am ofynion gweithio mewn cyd-destun proffesiynol.

“Fe addasodd y myfyrwyr yn wych i weithio ar-lein a mynd ati’n llawn penderfyniad i ddiwallu anghenion cleient a oedd yn mynnu ansawdd.”

“Fe wnaeth y tîm yn DabApps fwynhau gweithio ar y cyd â myfyrwyr CAVC yn fawr,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr Chris Palk. “Fe gafodd y broses ei rheoli’n broffesiynol iawn, ac erbyn hyn mae gennym ni gyfres o ddeg llun gwreiddiol anhygoel yn hongian yn ein swyddfa.”

Un aelod annatod o'r tîm a weithiodd ar friff DabApps oedd Robin Gough, myfyriwr Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth.

“Un o’r teimladau mwyaf fel ffotograffydd yw gwybod bod gan rywun, yn rhywle, eich celf ar eu wal,” meddai. “Dyna yn y bôn nod terfynol pob ffotograff sy’n cael ei dynnu ac roedd cael cyfle i addurno swyddfa gyfan gyda'n gwaith, a fyddai nid yn unig yn cael ei weld gan y bobl sy'n gweithio yno bob dydd, ond gan bawb sy’n ymweld â'r swyddfa hefyd, yn hynod gyffrous.”

Roedd gorfod cyflawni briff yn ystod pandemig byd-eang yn creu straen, meddai Robin, ond roedd manteision i hynny hefyd.

“Er bod yr ychydig gyfarfodydd cyntaf gawsom ni ddiwedd yr hydref pan oedd cyfyngiadau Covid wedi’u llacio, pan ddaeth yn amser creu’r gwaith celf yr oeddem wedi’i addo, roedd Cymru mewn cyfnod clo llawn ym mis Ionawr ac felly roedd ein hopsiynau i greu a mynediad i gyfleusterau’n gyfyngedig iawn,” esboniodd. “Wedi dweud hynny, weithiau gall opsiynau cyfyngedig fod yn fuddiol i greadigrwydd, gan ei fod wedi ein gorfodi ni i ailfeddwl a bod yn arbrofol gyda'n dull, gan ein gwthio i lawr llwybrau na fyddem wedi eu troedio fel arall erioed, efallai.

“Rydw i'n credu bod y grŵp wedi cyflawni rhywbeth arbennig iawn gyda’n dyfalbarhad a'n dychymyg.”

Fel Martyn, mae Robin yn credu bod y cwrs wedi ei helpu'n fawr.

“Mae’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth wedi bod yn heriol ond yn hynod werthfawr,” meddai Robin. “Fe ddechreuais y cwrs gyda diddordeb brwd mewn ffotograffiaeth ond bron ddim gwybodaeth am ei hanes a’i arwyddocâd yn y byd celf.


“Mae'r modiwlau wir wedi agor fy llygaid i botensial ffotograffiaeth fel cyfrwng gyda chymysgedd hynod ddiddorol o hanes celf, athroniaeth, rhaglenni ymarferol a datblygu sgiliau technegol. Mae fy nhiwtoriaid i wir wedi fy ngwthio i ac wedi fy annog i archwilio themâu yn ddyfnach ac arbrofi, sydd wedi fy ngwneud yn well arlunydd nag y byddwn i erioed wedi bod ar fy mhen fy hun. "

Mae Robin yn bwriadu treulio blwyddyn gyda phartner CCAF, Prifysgol De Cymru, i ychwanegu at ei radd i ennill gradd lawn, ac wedyn dilyn cwrs MA.


“Fy nod i mewn bywyd yw bod yn arlunydd enwog y mae ei waith yn cael ei arddangos yn rhai o’r orielau a’r amgueddfeydd mwyaf yn y wlad,” meddai.


“Mae'r cwrs yma wedi gosod sylfaen ragorol i mi gychwyn ar fy nhaith. Er bod gen i gymaint i'w ddysgu a'i ymarfer o hyd o gymharu â fy arwyr yn y diwydiant, rydw i'n teimlo fy mod i wedi cael map ffordd perffaith y gallaf ei ddefnyddio i ddilyn fy siwrnai tuag at y nodau hynny."


Mae Martyn a Robin hefyd wedi trefnu eu harddangosfa diwedd blwyddyn eu hunain yng Nghaffi Aubergine yng Nghaerdydd.


Mae hefyd wedi bod yn flwyddyn dda i fyfyriwr Ffotograffiaeth BTEC, Kian Swainston, a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Ffotograffiaeth Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill medal aur.


“Pan wnaethon nhw gyhoeddi fy mod i wedi ennill o dan yr adran ffotograffiaeth roeddwn i ar ben fy nigon yn llythrennol,” meddai. “Roedd yn hwb enfawr i fy hyder i ac fe wnes i fwynhau’r profiad hefyd.


“Fe wnaeth y gystadleuaeth ddarparu gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant ac fe wnaethon nhw rannu awgrymiadau, triciau a chyngor i ffotograffwyr newydd fel fi!"


Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr Ffotograffiaeth ar eu cyflawniadau anhygoel o dan amodau hynod heriol. Ar draws y Coleg, mae’r myfyrwyr wedi dangos dro ar ôl tro pa mor hyblyg maen nhw’n gallu bod mewn blwyddyn o newid cyson, ac mae wedi bod yn ysbrydoledig iawn eu gweld yn llwyddo mor wych."