Blwyddyn lwyddiannus i fyfyrwyr Moduro Coleg Caerdydd a’r Fro

8 Gor 2021

Mae myfyrwyr Gorffen Cerbydau, Atgyweirio Cyrff Cerbydau a Pheirianneg Cerbydau Trwm yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi ennill deg gwobr diwydiant a sgiliau nodedig yn 20-21.

Er gwaethaf wynebu'r heriau yn sgil dysgu yn ystod y cyfnod clo, mae'r dysgwyr wedi cipio medalau a gwobrau mewn sawl maes.

Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth ledled De Cymru yw'r Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) sy'n cael ei gadeirio gan CCAF. Yng Ngwobrau Blynyddol QSA 2021, enillodd Thomas Venn y Wobr Atgyweirio Cyrff Moduron a chipiodd Joao Camacho y Wobr Cerbydau Trwm Modurol.

Hefyd, gwelwyd myfyrwyr Moduro CCAF yn perfformio’n rhagorol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan ennill amrywiaeth o fedalau. Yn lle teithio o’r coleg i gystadlu eleni, cynhaliwyd yr holl rowndiau rhagbrofol yn ‘fewnol’ yng Nghanolfan Foduro fodern y Coleg.

  • Mewn Cerbydau Trwm, enillodd CCAF y gwobrau i gyd, gyda Luke Friston yn ennill yr aur, Philip Gregory yr arian a Dafydd Jones yn cipio efydd
  • Ym maes Ailorffen Cerbydau, enillodd Sion Lewis aur ac Owen Sims arian
  • Yn y gystadleuaeth Atgyweirio Cyrff Cerbydau, enillodd Lewis Hastings aur a daeth Joel Windsor â'r fedal arian adref

Roedd gan CCAF enillydd medal mewn Sgiliau Cynhwysol hefyd, cystadleuaeth sgiliau i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Enillodd Owen Parton fedal efydd mewn Technoleg Moduron Cynhwysol.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i bob un o enillwyr ein gwobrau Moduro - mae gwneud cystal o dan amgylchiadau mor heriol yn gyflawniad nodedig iawn! Mae hefyd yn dyst i waith caled ac ymroddiad tîm Moduro arbenigol y Coleg, sydd wir yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod eu dysgwyr yn cyrraedd safon mor uchel.”