Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi symud i'r ail safle ym Mynegai Gweithleoedd Mwyaf Cynhwysol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth – ac wedi ennill gwobr y Ganolfan i Ddarparwr Addysg Bellach y Flwyddyn.
Gwnaed y cyhoeddiad yng Ngwobrau Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) blynyddol yr NCFD. Y llynedd, cafodd y Coleg ei osod yn 12fed ymhlith 100 Uchaf y Ganolfan.
Mae'r Mynegai 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol yn rhestr flynyddol sy'n cwmpasu sectorau cyhoeddus a phreifat a thrydydd sector y DU sy'n cyflogi miloedd o bobl ledled y wlad. Mae'n cynnwys pob math o sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau sector preifat, banciau, colegau a sefydliadau elusennol ledled y DU.
Mae naid CAVC i fyny yn y mynegai, a'i wobr fel Darparwr AB y Flwyddyn, yn adlewyrchu'r gwaith sylweddol mae'r Coleg yn ei wneud yn y cymunedau mae'n eu gwasanaethu. Fel y darparwr mwyaf ar gyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru, mae'r Coleg mewn sefyllfa dda i estyn allan at gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y Brifddinas Ranbarth a thu hwnt.
Mae ei fenter REACH+ yn hwb canolog i'r rhai ar gyrsiau ESOL, sydd wedi gwella'n sylweddol y ffordd y darperir y cyrsiau priodol i'r bobl briodol a thorri rhestrau aros. Roedd rhaglen gychwynnol REACH yn gymaint o lwyddiant fel bod y Senedd wedi'i chyflwyno ledled Cymru, ynghyd â phrosiect ReStart: Integreiddio Ffoaduriaid i ddarparu cymorth mewn siop un stop.
Mae CAVC hefyd yn gweithredu Adnodd Ymwybyddiaeth Iechyd a Chanser ESOL – pecyn o adnoddau addysgol - mae'n ei gynnig mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Solat Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth: "Rwy'n anfon fy llongyfarchiadau cynhesaf i Goleg Caerdydd a'r Fro, buddugoliaeth haeddiannol, ac ar gyrraedd rhif 2 ym Mynegai Gweithleoedd Mwyaf Cynhwysol 2021. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol ac eto, nid yw wedi amharu ar y gwaith rhagorol mae sefydliadau ac unigolion yn ei wneud i hyrwyddo arfer gorau FREDIE.
"Roedd yn rhaid i ni gael y gwobrau hyn eleni. Doedd dim posib anwybyddu'r ymdrechion gwych mae pawb wedi parhau i'w gwneud. Roedd gan bob un o'r enillwyr straeon ysbrydoledig i'w rhannu.
"Dangosodd pob un o'r enillwyr broffesiynoldeb ac arweinyddiaeth gynhwysol wych gan yr uwch reolwyr i lawr i'r holl dimau sy'n cyflwyno ar y tir, ac rwy'n llongyfarch pawb sy'n gweithio mor galed o ddydd i ddydd i gynnal y safonau uchel hyn.
"Drwy waith y FREDIEs rydym yn gallu adeiladu cymdeithas well, ac mae ein henillwyr yn dod o drawstoriad gwych o sectorau preifat, cyhoeddus, addysg ac elusennol sy'n cynrychioli'r gorau."
Yn ddiweddar, ailachredodd yr NCFD statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth CAVC, gan ei osod fel un o'r prif sefydliadau yn y DU am annog diwylliant hollgynhwysol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dyma'r wobr fwyaf anrhydeddus a gynigir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ac mae'r Coleg wedi dal y statws hwn ers 2016.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Kay Martin: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill gwobr Darparwr AB y Flwyddyn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ac wedi symud i'r ail safle ym Mynegai’r 100 Gweithle Mwyaf Cynhwysol.
"Fel y Coleg sy'n gwasanaethu un o'r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'r canlyniad hwn. Mae'n golygu llawer i ni oherwydd ein bod yn credu ein bod wrth galon y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a staff yn rhan o Deulu CAVC.
“Mae hyn yn dyst i’r bobl briodol ar draws y Coleg sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod CAVC yn gweithredu’n hollgynhwysol wrth reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws popeth rydym yn ei wneud, ac fe hoffwn ddiolch iddynt i gyd am hynny.”
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog ar gyfer Addysg a'r Gymraeg: "Dylai ein sefydliadau academaidd adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn byw ynddynt heddiw, gan eu gwneud yn llefydd cyfoethocach ar gyfer dysgu a gweithio ynddynt.
"Llongyfarchiadau mawr i Goleg Caerdydd a'r Fro ar y llwyddiant hwn ac am ennill gwobr Darparwr AB y Flwyddyn am amrywiaeth a chynhwysiant."