Dyfarnwyd y brif wobr i Goleg Caerdydd a'r Fro yng Ngwobrau AB TES 2021 am y gefnogaeth mae'n ei rhoi i'w ddysgwyr.
Yn dathlu'r gorau o blith y goreuon mewn AB ledled y DU, cafodd CAVC le ar y rhestr fer mewn pum categori yn y gwobrau – Coleg AB y Flwyddyn, Menter addysgu a dysgu orau, Arwr WorldSkills, Ymgysylltu â Chyflogwyr a Chefnogaeth i ddysgwyr.
Wedi'i ganmol am 'fynd yr ail filltir i ddiogelu a gofalu am les ei ddysgwyr', mae strategaeth gadarn CAVC i greu dealltwriaeth ragorol o broblemau cyfredol ac i ddarparu cyswllt hanfodol gyda dysgwyr a oedd yn anniogel yn eu cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud yn ddwy enghraifft yn unig o'r hyn a arweiniodd at CAVC yn ennill y wobr yn y categori Cefnogaeth i ddysgwyr.
Dywedodd y prif feirniad ar gyfer Gwobrau AB TES, Vicky Duckworth: "Roedd y cyflwyniadau'n rhagorol, ac fe wnaeth ymroddiad o'r fath i gefnogi dysgwyr y tu mewn a’r tu allan i'r ystafell ddosbarth greu argraff fawr arna’ i.
"Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi dysgwyr a gwrando ar leisiau ei ddysgwyr a'i gymuned."
Mae'r tîm Lles a Diogelu yn CAVC yn cynnwys swyddi amrywiol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi iechyd meddwl y dysgwyr a’u lles emosiynol a'u cadw'n ddiogel. Gan weithio'n agos gyda chwnselwyr, cydweithwyr ar draws y coleg a sefydliadau allanol i ddarparu cefnogaeth amserol ac effeithiol, mae CAVC yn defnyddio system 'clo triphlyg' i sicrhau bod pryderon lles a diogelu yn cael eu hadnabod, yn cael sylw ac yn cael eu monitro'n effeithiol, gan roi strategaethau effeithiol ar waith i helpu ei ddysgwyr.
Mae hyn yn cynnwys creu hybiau ar y campws i ddarparu lle diogel i ddysgwyr yn ystod cyfnodau o gau campysau; partneriaeth â Here We Flo i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael cynhyrchion misglwyf am ddim, yn cael eu dosbarthu'n syth i'w cartrefi; a hyfforddiant Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff a'u helpu i ganfod problemau posibl a darparu unrhyw gefnogaeth angenrheidiol.
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Fel coleg mae diogelwch a lles ein dysgwyr ni wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ac mae ennill y wobr Cefnogaeth i ddysgwyr yma ar ôl y flwyddyn rydyn ni i gyd wedi'i chael yn golygu llawer.
"Rydw i'n eithriadol falch o'r ffordd mae’r staff ar draws CAVC wedi camu i’r adwy yn ystod y pandemig, gan ganfod problemau posibl yn gyflym a chadarnhau'r strategaeth gref sydd eisoes ar waith i weithredu mentrau a systemau cefnogi newydd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'n dysgwyr ni."