Mae Katie Hill, myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, wedi ennill Gwobr CAVC am ei Hymrwymiad Arbennig i'r Gymraeg.
Mae CAVC yn falch o'i dreftadaeth Gymreig a phenderfynwyd creu'r wobr arbennig hon i ddathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru a gwobrwyo dysgwyr sy'n dangos eu hymrwymiad iddynt. Noddir y wobr hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dewiswyd Katie, sy'n 18 mlwydd oed ac o Hengoed, fel enillydd cyntaf y wobr am yr ymrwymiad arbennig i'r Gymraeg y mae wedi'i ddangos dros y flwyddyn ddiwethaf. Drwy ei hangerdd am y Gymraeg, dewiswyd yn Llysgennad Cymraeg CAVC.
Mae hefyd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod y pandemig, gan greu clwb llesiant dwyieithog ar Microsoft Teams, lle mae myfyrwyr yn gallu cael y cyfle i drafod eu meddyliau, teimladau a phryderon yn eu dewis iaith, boed hynny yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae Katie hefyd wedi cyfrannu at gylchlythyrau a thrafodaethau adrannol CAVC a sefydlu cwis Cymraeg ar gyfer Dydd Miwsig Cymru i godi arian ar gyfer Felindre.
"Mae'n deimlad gwych ennill y wobr Ymrwymiad Arbennig i'r Gymraeg," dywedodd Katie. "Rwyf wedi fy synnu'n llwyr hefyd gan nad oeddwn yn gwybod bod y wobr hon yn bodoli.
"Ac rwy'n falch iawn ohonof a'r Coleg, nid yn unig ohonof fy hun am lwyddo i gyflawni'r wobr hon, ond o'r Coleg am gydnabod y dylid dathlu rhywbeth fel hyn."
Mae Katie, sy'n anaml iawn yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg gyda theulu neu ffrindiau, yn credu bod cefnogaeth CAVC i ddwyieithrwydd yn hanfodol.
"Rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod y Coleg yn hyrwyddo'r Gymraeg," eglurodd. "Fel llysgennad Cymraeg, fy nghyfrifoldeb i yw ei gwthio ymlaen fel rhywbeth hwyliog.
"Ac fel rhywun a fynychodd ysgol gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae symud i rywle cyfrwng Saesneg yn frawychus iawn - rwy'n credu bod yr integreiddiad wedi bod yn wych yma yn y Coleg.
"Rwyf wrth fy modd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y Coleg. "Rwy'n credu ei fod yn lle gwych i allu ei defnyddio, gan y gallwn ei hyrwyddo at ddibenion academaidd a chymunedol.
"Rwy'n credu bod llawer o ddisgyblion, yn enwedig fy oed i, yn anghofio bod y Gymraeg yn fwy na rhywbeth rydych chi'n ei dysgu ar gyfer TGAU, mae'n rhywbeth y gallwch ei chael am weddill eich oes ac mae'r diwylliant sydd ynghlwm â hi yn arbennig."
Gan siarad am ei gwaith fel Llysgennad Cymraeg CAVC a sefydlu clwb llesiant i siaradwyr Cymraeg a Saesneg, dywedodd Katie:
"Rwy'n credu mai'r hyn rwyf wedi'i fwynhau fwyaf am fod yn y coleg yw'r gallu i hyrwyddo'r Gymraeg a dangos i fyfyrwyr y gellir ei hastudio ymhellach yn ogystal â'i defnyddio i gael hwyl, fel y cwis a gynhaliom ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.
"Nid oes amheuaeth mai fy mhrif lwyddiant gyda'r Coleg yw creu'r clwb llesiant a sefydlais gyda chymorth y tîm llesiant a fy nghyd-lysgenhadon Cymraeg. Ei enw yw'r 'lle lles'. Ac mae gennym wasanaethau iechyd meddwl i siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel y gall pawb fod mor gyfforddus ag sydd angen iddynt fod."
Mae Katie yn bwriadu cwblhau ei Safon Uwch a mynd ymlaen i'r brifysgol, a dod yn Ddoctor mewn Seicoleg yn y pen draw.
"Mae'r Coleg yn fy helpu i gyflawni fy nodau 100%," dywedodd. "Nid wyf erioed wedi bod mewn system addysgol sydd mor gefnogol o fy nyfodol, ac o fy mywyd presennol."
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Da iawn Katie! Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydym yn dathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru ac mae gwaith Katie yn ein helpu i wneud hynny wedi bod yn anhygoel dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Rydym yn falch o fod yn Gymry a chredwn fod gan bawb yr hawl i gyfathrebu a dysgu gyda ni yn y Gymraeg. Dyna pam rydym mor falch o roi'r wobr hon i Katie am ei hymrwymiad arbennig - mae'n fodd o ddathlu aelodau o Deulu CAVC sydd wedi rhagori gyda'u sgiliau Cymraeg."