Mae myfyrwyr Gradd Sylfaen mewn Cyfathrebu Graffig o Goleg Caerdydd a'r Fro wedi cael eu comisiynu i greu Llwybr Celf o amgylch Caerdydd ar gyfer Tafwyl.
Mae Tafwyl yn ŵyl flynyddol yng Nghaerdydd sy'n dathlu'r iaith Gymraeg, y celfyddydau a diwylliant ac eleni mae'n cael ei chynnal rhwng yr 8fed o Fai a’r 16eg o Fai. Cafodd y myfyrwyr friff byw gan y trefnwyr i greu Llwybr Celf ar gyfer y Brifddinas – mae briffiau byw yn gyfleoedd i ddysgwyr gael profiad real nid realistig o gael eu comisiynu a gweithio gyda chyflogwr.
Er bod Tafwyl ar-lein i raddau helaeth eleni, cafodd myfyrwyr CAVC eu briffio i ddarparu presenoldeb corfforol real yn y ddinas ac i helpu i ddenu trigolion Caerdydd allan i’r awyr agored.
Gan ddechrau yng Nghastell Caerdydd a throelli i lawr i'r Bae, mae'r Llwybr yn cynnwys deg stop mewn safleoedd arwyddocaol sydd â chysylltiadau diwylliannol ac emosiynol. Rhoddwyd pob lleoliad i fyfyriwr gwahanol ac roeddent yn creu delweddaeth fel ymateb i'w pwynt ar y llwybr.
Dyma’r safleoedd a'u hartistiaid:
Dywedodd Lowri Keane, myfyrwraig Gradd Sylfaen blwyddyn gyntaf mewn Cyfathrebu Graffig: "Mae'r prosiect gyda Tafwyl wedi bod yn gyfle perffaith i mi ganolbwyntio ar wella fy sgiliau dylunio, darlunio a chyfansoddi. Mae astudio hanes dinas rydw i wedi byw ynddi gydol fy oes wedi gwneud i mi syrthio mewn cariad â hi unwaith eto, yn ogystal â rhoi profiad amhrisiadwy i mi ar gyfer fy siawns am swyddi yn y dyfodol."
Dywedodd Swyddog Tafwyl Gwenno Roberts: "Gyda gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol am yr ail flwyddyn yn olynol yn 2021, roedd y cyfle i gydweithio gyda CAVC ar brosiect fyddai'n dod â llwybr celf corfforol i'r ddinas yn un na allem ei golli!
"Mae'n wych gwybod y bydd gweithiau celf y myfyrwyr ar gael i deuluoedd ar draws y ddinas ac efallai mai'r darnau yma fydd y gweithiau cyntaf o gelf i gael eu gweld wyneb yn wyneb mewn arddangosfa gan bobl ers sbel. Mae'r myfyrwyr wedi gweithio'n ddiflino i ddod â'u cysyniadau'n fyw ac wedi cael ysbrydoliaeth fawr o leoliadau a thirnodau'r llwybr. Mae wedi bod yn bleser dilyn eu siwrneiau creadigol ac rydw i'n gobeithio y gall cynulleidfa Tafwyl fwynhau'r creadigrwydd a'r amrywiaeth sydd wedi dod yn fyw drwy'r prosiect yma."
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr ewch i: https://tafwyl.org/art-trail-en/
Mwy o wybodaeth am y cwrs GS Cyfathrebu Graffig yn CAVC ar gael yma: https://cavc.ac.uk/en/courses/graphic-communication-foundation-degree