Mae Kaiden Ashun, prentis Gosodiadau Electrodechnegol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, wedi ennill cystadleuaeth Prentis Crefft Screwfix 2021 ledled y DU.
Cymerodd Kaiden, 21 oed ac o Gaerdydd, ran mewn rownd derfynol ddigidol (22/23 Ebrill) ochr yn ochr â naw arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Gwnaeth argraff ar banel o arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys cynrychiolwyr o NICEIC, CIPHE, FMB a Chrefftwr Gorau Screwfix yn 2019, Darren McGhee, i ennill y wobr.
Dangosodd Kaiden natur entrepreneuraidd, angerdd dros ddyfodol yn y grefft a dyhead i barhau i uwchsgilio a wnaeth argraff ar y beirniaid. Trafododd hefyd sut roedd eisiau helpu i annog eraill i ddilyn prentisiaeth a’i fod eisiau bod yn llysgennad i'r grefft.
Dywedodd y beirniaid ei fod yn benderfyniad anodd dewis enillydd, ond daeth Kaiden i'r brig a dyfarnwyd y teitl a'r bwndel gyrfa gwerth £10,000 iddo. Mae hwn yn cynnwys popeth y gallai crefftwr fod ei angen yn y dyfodol i roi hwb cychwynnol i'w yrfa, gan gynnwys gwerth £5,000 o offer, cyllideb hyfforddi o £3,000 a gwerth £2,000 o dechnoleg.
Dywedodd Kaiden, sy'n gweithio i bartner hirdymor i CAVC, y cefnogwr prentisiaethau Blues Electrical: "Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth pan gefais i fy enwi'n enillydd yn y rownd derfynol. Roedd pawb gyrhaeddodd y rownd derfynol mor wych ac roeddwn i’n gwybod y byddai'n gystadleuaeth anodd.
"Mae fy nheulu i gyd yn y maes yma ac mae'n waith gwych oherwydd gallwch chi fod yn fos arnoch chi’ch hun a chael boddhad mawr o waith da a chwsmeriaid hapus. Rydw i eisoes wedi dylunio logo a brand ar gyfer fy nghwmni pan fyddaf yn barod i fynd ar fy mhen fy hun, a bydd y wobr a'r teitl yma’n fy helpu i sefydlu gyrfa wych!"
Mae Kaiden yn teimlo bod ei amser yn CCAF wedi ei helpu i ennill y wobr hon ledled y DU.
"Rydw i wedi mwynhau fy amser gyda Choleg Caerdydd a'r Fro yn fawr," meddai. "Mae hyn yn bennaf oherwydd mentora ardderchog fy nhiwtor Geoff Shaw. Mae'n rhagorol yn yr hyn mae'n ei wneud, ac mae'n sicr wedi dylanwadu arnaf i i fod y myfyriwr ydw i heddiw.
"Hebddo, ni fyddwn wedi cael fy nghyflwyno i 'nghyflogwr Dave Chandler yn Blues Electrical, y mae arnaf lawer o ddyled iddo hefyd, gan fod ei gwmni'n gefnogol iawn i'w brentisiaid, ac wedi fy ngalluogi i ffynnu a llwyddo. Yn gyffredinol, mae'n Goleg rhagorol sy'n rhoi i fyfyrwyr yr hyn sydd arnyn nhw ei angen i gyflawni eu nodau a llwyddo ar lefel broffesiynol.
"Penderfynais ymgymryd â phrentisiaeth gyda CAVC oherwydd natur gadarnhaol, cynhwysiant ac awyrgylch cefnogol y coleg. Ar ôl bod yn ddisgybl yma o'r blaen, roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n cael yr holl gymorth a'r arbenigedd sydd eu hangen i lwyddo yn nes ymlaen mewn bywyd."
Dywedodd Simon Jackson, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Digidol Screwfix: "Rydw i wrth fy modd mai Kaiden yw ein henillydd ni eleni. Mae'n esiampl o bopeth rydyn ni’n chwilio amdano yn y gystadleuaeth yma – proffesiynoldeb, uchelgais, a dyhead i godi ymwybyddiaeth ymhlith eraill o fanteision prentisiaethau a gyrfa yn y grefft yn y dyfodol.
"Eleni cawsom fwy na 2,000 o geisiadau – y mwyaf erioed yn y gystadleuaeth yma – ac nid yw'n hawdd cyrraedd y rownd derfynol, heb sôn am ennill. Mae gan Kaiden yrfa addawol o'i flaen, ynghyd â phawb arall yn y rownd derfynol, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut maen nhw'n gwneud cynnydd."
Nid yn unig bod Kaiden wedi ennill y bwndel o wobrau, ond hefyd mae CAVC wedi derbyn rhodd o £2,000 gan Screwfix i fynd tuag at helpu prentisiaid ifanc eraill i astudio eu crefft.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro Sharon James: "Llongyfarchiadau Kaiden! Rydyn ni i gyd yn hynod falch ohonot ti yma yn CAVC.
"Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn credu'n gryf mewn manteision prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith, felly mae gweld prentis fel Kaiden yn cyflawni cymaint yn ardderchog. Da iawn Kaiden ac i bawb sydd wedi gweithio mor galed i'w gefnogi a'i helpu i gyrraedd lefel mor uchel – a diolch Screwfix!"