Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael ei ailachredu gyda'r Dyfarniad Arweinwyr mewn Amrywiaeth.
Mae'r dyfarniad yn gosod CCAF fel un o'r prif sefydliadau yn y DU am annog diwylliant hollgynhwysol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Dyma'r dyfarniad uchaf a mwyaf anrhydeddus a gynigir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.
Darparwyd adborth rhagorol ar waith y Coleg, ei staff a'i ddysgwyr gan yr asesydd.
Mae statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth yn adlewyrchu dull effeithiol, hollgynhwysol o reoli EDI ar draws y Coleg. Mae hefyd yn anfon neges gadarnhaol i staff, myfyrwyr, busnesau a'n cymuned am yr hyn mae'r Coleg yn sefyll drosto a'i welliant o ran ymrwymiad.
Roedd y broses o gael ailachrediad yn cynnwys y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth yn dadansoddi canfyddiadau o arolygon yr holl arweinwyr a’r rheolwyr a channoedd o staff a dysgwyr, ochr yn ochr â gwaith manwl gyda grŵp llywio'r Coleg a fydd yn gweithio i sbarduno gwelliannau pellach.
Dywedodd asesydd Arweinwyr mewn Amrywiaeth: "Wrth ailasesu yn 2021, mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymateb i'r heriau a gyflwynwyd gan Bandemig Covid, gan symud darpariaeth ar-lein yn ôl yr angen, parhau i ddarparu cymorth dysgu a lles, ac addasu yn hyblyg a chyflym i ymateb i ddysgwyr a staff.
"Gyda’r ddarpariaeth yn amrywio o fyfyrwyr yn dysgu Saesneg fel Ail Iaith i brentisiaethau, partneriaethau busnes, hyfforddiant galwedigaethol a darpariaeth Addysg Uwch, mae cwmpas cyrhaeddiad y Coleg yn sylweddol, ac mae ei le allweddol yn ei gymuned leol fel sefydliad sy’n creu newid yn amlwg o'r trafodaethau a gynhaliwyd. Mae wedi bod yn ysbrydoledig siarad gyda'r tîm yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro."
Enillodd CCAF statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth am y tro cyntaf yn 2017. Ym mlwyddyn academaidd 2019-20, symudodd y Coleg o'r 15fed i'r 12fed safle ym Mynegai 100 Uchaf y Ganolfan o gwmnïau sy’n gosod y bar yn uchel ar gyfer tegwch. Hefyd enillodd ddyfarniad y Ganolfan am ymrwymiad i degwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad (FREDIE).
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro Sharon James: "Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni’n gweld ein hunain wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a dyma rai o'r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru, felly rydyn ni wrth ein bodd yn cael achrediad Arweinwyr mewn Amrywiaeth eto.
"Mae hyn yn dyst i'r bobl ar draws y Coleg sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod CCAF yn mabwysiadu agwedd hollgynhwysol at reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws popeth rydym yn ei wneud ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am hynny."