Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymuno â'r gymuned ar-lein Togetherall i ddarparu cymorth iechyd meddwl rownd y cloc i'w fyfyrwyr.
Fel rhan o gynllun peilot, bydd dysgwyr Addysg Uwch y Coleg yn gallu defnyddio Togetherall. Mae cynlluniau ar waith i ehangu’r cymorth i holl fyfyrwyr a staff CCAF.
Bydd pobl sy'n mewngofnodi i Togetherall yn dod o hyd i gymuned ar-lein o bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl cyffredin, sy'n cael cymorth i hunanreoli eu hiechyd eu hunain. Mae'r gymuned yn cael ei chymedroli 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gwnselwyr cymwys; mae 70% o’r aelodau'n dweud eu bod yn teimlo'n well o ganlyniad i ddefnyddio Togetherall ac roedd 1 o bob 2 wedi rhannu rhywbeth ar Togetherall am y tro cyntaf.
Pan fydd aelodau newydd yn mewngofnodi i Togetherall, maent yn creu enw defnyddiwr nad yw'n dangos pwy ydynt mewn unrhyw ffordd. Mae'r gwasanaeth yn gwbl ddienw.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Togetherall, Henry Jones: "Bydd effaith COVID-19 ar iechyd meddwl myfyrwyr i’w theimlo'n hir iawn ar ôl i bawb ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth ac wrth i fyfyrwyr setlo i mewn i fersiwn newydd o normalrwydd. Rwy’n hynod falch bod myfyrwyr Addysg Uwch 16+ oed Coleg Caerdydd a'r Fro bellach yn gallu defnyddio ein cymuned ar-lein lle gallant siarad yn ddiogel am sut maen nhw'n teimlo gydag eraill. Rydyn ni yma i'w cefnogi nhw 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn."
Dywedodd Deon Taith y Dysgwr CCAF, James Donaldson: "Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu iechyd a lles meddyliol y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod pandemig, gan fod cyfyngiadau COVID-19 wedi gweld llawer o fyfyrwyr yn dysgu o gartref yn ynysig.
"Dyma pam rydyn ni’n eithriadol falch o ddechrau gweithio gyda Togetherall i ddarparu gofod lle gall myfyrwyr drafod unrhyw broblemau sydd ganddynt mewn amgylchedd cefnogol."