Tynnu sylw at arfer da Coleg Caerdydd a'r Fro mewn adroddiad ar ddyfodol colegau yng Nghymru

3 Chw 2021

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael ei ddefnyddio fel esiampl o arfer da mewn adroddiad ar ddyfodol Addysg Uwch (AU) a cholegau yng Nghymru.

Mae'r adroddiad, Coleg y Dyfodol ar gyfer Cymru, yn tynnu sylw at waith CCAF i ymgorffori Dysgu Wedi’i Wella gan Dechnoleg (TEL) ym mhopeth mae’n ei wneud, a'i waith partneriaeth gyda'r gymuned. Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Goleg y Dyfodol i lunio adroddiadau ar ei argymhellion ar gyfer AB ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Wrth drafod rôl TEL, mae'r adroddiad yn trafod pwyslais Coleg Caerdydd a'r Fro ar helpu dysgwyr a'r gymuned i addasu i newid digidol. Fel Coleg Arddangos Microsoft cyntaf Cymru, a’r unig un, mae TEL wedi'i ymgorffori yng nghwricwlwm a gwaith ehangach y Coleg.

Mae'r Coleg hefyd yn darparu rhaglenni cymunedol TEL ar gyfer y Brifddinas Ranbarth, gan greu cyfleoedd datblygu digidol i'r gymuned ehangach. Mae pwyslais cryf ar siwrneiau digidol y staff mewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r gwaith cadarn mae CCAF yn ei wneud yn y gymuned mae'n ei gwasanaethu – un o'r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru. Mae'n cyfeirio at y fenter Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd sydd wedi estyn allan at fwy na 1,000 o rieni a phlant, a'i waith yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser ac iechyd ymhlith y gymuned DLlE.

Mae hefyd yn cyfeirio at hwb REACH+ y Coleg i’r dysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), a'i raglen Prentisiaeth Iau flaenllaw ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed sydd wedi lleihau'n sylweddol nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: “Rydyn ni’n gwasanaethu un o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru ac rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i greu cyfleoedd i'r gymuned honno a'r economi leol ac ehangach.

“Hefyd, ar adeg pan mae dysgu ar-lein wedi dod yn fwy perthnasol nag erioed, rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i wella'r broses ddysgu. Mae'n anrhydedd bod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn cael eu defnyddio fel astudiaethau achos yn yr adroddiad pwysig hwn.”