Heddiw (7fed Rhagfyr) yw Diwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg ac mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu ac yn cefnogi cyfleoedd i bawb siarad Cymraeg.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn goleg Cymraeg. Mae gan bawb yr hawl i gyfathrebu a derbyn gwasanaethau gan y Coleg yn y Gymraeg ac mae wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfle hwnnw i'n dysgwyr, ein cyflogeion a'n hymwelwyr.
Dyma pam mae CAVC yn cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg, cyfle i sefydliadau cyhoeddus hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.
Yn CAVC, mae gan bob myfyriwr yr hawl i gael cefnogaeth bersonol a chefnogaeth gydag astudio yn y Gymraeg, a'r hawl i gyflwyno gwaith, a chael ei asesu, drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae sawl cwrs dwyieithog ar gael. Mae gan y Coleg ystod o wasanaethau ac adnoddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus.
Mae gan y Coleg ddeg Hyrwyddwr y Gymraeg, wedi'u recriwtio o blith y staff ar draws holl gyfadrannau CAVC. Eu rôl yw helpu, cefnogi a datblygu’r Gymraeg ar draws CAVC drwy sesiynau galw heibio ar gyfer staff a myfyrwyr a threfnu clybiau anffurfiol. Dyma’r hyrwyddwyr:
• Clare Teehan (Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Busnes a TG)
• Hayley Evans (Rhaglen Tiwtorial ac Adnoddau Trawsgolegol Cymraeg, Chwaraeon, Twristiaeth, Gwasanaethau Cyhoeddus)
• Richard Davies (Addysg Gyffredinol, Ysgolion, Prentisiaethau Iau, AU)
• Sian Chandler (Diwydiannau Creadigol)
• Shellie Scott (Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu, clybiau allgyrsiol)
• Nia Anwyl-Evans (ESOL, gweithgareddau allgyrsiol)
• Sam Farmer (Chwaraeon, Twristiaeth, Gwasanaethau Cyhoeddus)
• Richard Littleton (Lletygarwch, Gwallt a Harddwch)
• Kez Edwards (Adeiladu)
• Aimee Jones (Peirianneg, Peirianneg Awyrofod, Peirianneg Moduron a Gwasanaethau Adeiladu)
Mae gan y Gymraeg gynrychiolaeth ar lefel dysgwyr hefyd. Mae gan CAVC chwe Llysgennad Cymraeg o blith y myfyrwyr sy'n trefnu gweithgareddau allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cefnogi cyfoedion gyda'u sgiliau Cymraeg ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru ar draws y Coleg. Dyma’r Llysgenhadon:
• Katie Hill (Safon Uwch)
• Macey Fowler (Safon Uwch)
• Macey Fowler (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
• Elan Davies (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
• Sienna Henshall (Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
• Siobhan Watkins (Mynediad Galwedigaethol)
Yn ystod yr haf, dewiswyd Katie fel enillydd cyntaf Gwobr CAVC am Ymrwymiad Eithriadol i'r Gymraeg. Mae’r wobr yn cael ei noddi gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gweithiodd Katie yn ddiflino yn ystod y pandemig, gan greu clwb lles dwyieithog ar Microsoft Teams, lle mae myfyrwyr yn cael cyfle i drafod eu meddyliau, eu teimladau a'u pryderon yn eu dewis iaith, Cymraeg neu Saesneg. Mae Katie hefyd wedi cymryd rhan yng nghylchlythyrau a thrafodaethau adrannol CAVC ac wedi sefydlu cwis Cymraeg ar gyfer Diwrnod Miwsig Cymru i godi arian ar gyfer Felindre.
“Mae’n deimlad anhygoel, ennill y Wobr Ymrwymiad Eithriadol i’r Gymraeg,” meddai Katie ar y pryd. “Rydw i wedi cael sioc hefyd oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod bod y wobr yma’n bodoli hyd yn oed.
“Ac rydw i’n falch iawn ohono i fy hun a’r Coleg am nid yn unig gallu ennill y wobr yma fy hun, ond i’r Coleg am gydnabod y dylid dathlu rhywbeth fel hyn.”
Mae'r Llysgenhadon hefyd yn cynnal sŵn@CAVC, clwb Cymraeg i fyfyrwyr yn y Coleg. Pwrpas y clwb yw darparu cyfleoedd cymdeithasol, rhywle i ddefnyddio'r iaith a rhywle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, cyfleoedd gwaith, gigs a llawer mwy.
Maent hefyd yn gobeithio gweithredu cyfrif TikTok gyda gwersi Cymraeg byr ac mae cynlluniau ar y gweill i ddechrau podlediad Cymraeg.
Ond nid yw'r cyfleoedd i hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg yn CAVC yn gyfyngedig i’r dysgwyr yn unig. Gall y staff hefyd elwa o ‘Cymraeg Gwaith’, rhaglen sydd wedi’i chynllunio i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae gan y Coleg Swyddog Prosiect Cymraeg Gwaith pwrpasol, Aimee Jones, ac ar hyn o bryd mae 79 aelod o staff CAVC ar raglen Cymraeg Gwaith y Coleg.
Mae'r Darlithydd Safon Uwch, Matthew Eggerton, ar gwrs Sylfaen 1 ac mae yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg Gwaith ac wedi profi i fod yn ddysgwr ymroddedig a brwd ac mae ei deulu bellach i gyd yn dysgu Cymraeg hefyd. Dywedodd Aimee Jones, Swyddog Prosiect Cymru: “Mae hyn yn dangos effaith gadarnhaol sut rydyn ni fel Coleg yn darparu gwersi a rhaglen sydd nid yn unig yn effeithio ar y cwricwlwm ond sydd hefyd yn cyfrannu'n effeithiol at gynllun y llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, drwy deuluoedd sy'n penderfynu dysgu Cymraeg ar ôl cael eu hysbrydoli gan ein staff.”
Stori lwyddiannus arall yw'r Rheolwr Bwyd a Diod Cynorthwyol, Richard Littleton, sydd ar gwrs Sylfaen 2 ac yn ei drydedd flwyddyn yn astudio. Fe wnaeth ei sgiliau ddatblygu cymaint y llynedd nes iddo allu symud i fyny nid un lefel ond dwy, ac ysgwyddo rôl Hyrwyddwr y Gymraeg - diolch i Cymraeg Gwaith.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Mae CAVC wedi’i leoli yng nghanol Prifddinas Cymru ac rydyn ni’n hoffi cadw diwylliant Cymru wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud – rydyn ni’n hynod falch o’n treftadaeth.
“Dyma pam rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi a hyrwyddo Diwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg gan ein bod ni’n credu y dylai pawb gael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg os ydyn nhw’n dewis. Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddatblygu dysgwyr medrus a chyflogadwy - ac mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr. ”