Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro yn rowndiau terfynol Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru

26 Tach 2021

Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Cynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru, ar ôl trechu Coleg y Cymoedd 27-14 yn y rownd gynderfynol.

Bydd yr Academi nawr yn chwarae yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Principality ar 8fed Rhagfyr.

Ni ddechreuodd y gêm yn erbyn Coleg y Cymoedd yn hawdd i Academi Rygbi CAVC, gyda’r ddau dîm eisiau buddugoliaeth i sicrhau lle yn y rowndiau terfynol. Sgoriodd Coleg y Cymoedd ddau gais yn syth ar ôl ei gilydd i ddechrau, ond sgoriodd Harper Chamberlain o CAVC gais cyntaf y Coleg fel roedd hanner amser yn cyrraedd.

Roedd cerdyn melyn i Goleg y Cymoedd yn gynnar yn yr ail hanner yn gyfle i bymtheg cyntaf CAVC adeiladu ar y gwaith oedd wedi’i wneud yn yr hanner cyntaf gyda chais gan Harrison James a dau gan yr asgellwr cyflym, Will Hawker, gan ennill lle i’r Academi Rygbi yn y rowndiau terfynol.

Dywedodd Martyn Fowler, Cyfarwyddwr Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae cyrraedd rownd derfynol gyda rhaglen Academi Rygbi sydd, o gymharu ag eraill, yn parhau i fod yn ei dyddiau cynnar, yn dyst i’r oriau o waith mae’r grŵp chwarae yma a’i staff hyfforddi yn ymrwymo iddo o ddydd i ddydd. Rydyn ni i gyd yn gobeithio y gallwn ni wneud pawb sy'n gysylltiedig â CAVC yn falch ar yr 8fed o Ragfyr.”

Dywedodd Capten Blwyddyn 12 Academi Rygbi CAVC, Saul Hurley: “Mae wedi bod yn gwpl o wythnosau mawr gyda’r bechgyn i gyd ac rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn, yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cynghrair Ysgolion a Cholegau Rygbi Cymru, ar frig ein grŵp rhanbarthol a gobeithio ar frig y grŵp cwpan cenedlaethol. Mae'n fraint cael bod yn un o'r ddau Gapten i arwain ein tîm ni ar y cae a gobeithio creu hanes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

“Fe gefais i gyfle i fynd i Golegau Hartpury, Aberhonddu a Llanymddyfri gyda chyfleoedd ysgoloriaeth yn cael eu cynnig, ond fe wnaeth cyfarfod gyda Martyn a Yusuf gadarnhau fy newis i ddod i CAVC a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny, gyda fy astudiaethau Safon Uwch a fy natblygiad rygbi’n gwneud cynnydd fel roedd fy nheulu yn gobeithio.

“Mae rhaglen Academi Rygbi CAVC yn gyfle anhygoel i wella fel chwaraewr a chwarae safon wych o rygbi, gan annog academyddion hefyd. Mae’r Academi a’r hyfforddi wedi rhoi cyfle i ni chwarae yn Stadiwm y Principality a chynrychioli’r Coleg yn y rownd derfynol, sy’n destun balchder mawr – a’r cyfan yn fy mlwyddyn gyntaf i.”