urbasba Coleg Caerdydd a’r Fro yn helpu tîm sba Gwesty Parkgate i baratoi ar gyfer agoriad mawreddog

16 Tach 2021

Yn ddiweddar, fe wnaeth y tîm Therapi Harddwch yn urbasba Coleg Caerdydd a’r Fro groesawu’r tîm sba o westy moethus mwyaf newydd Caerdydd, y Parkgate, i’w helpu i baratoi ar gyfer agoriad mawreddog y gwesty.

Mewn gwirionedd, roedd yn fwy o groeso yn ôl gan fod chwech o dîm sba Gwesty’r Parkgate - Nicole Bosen-Rees, Lucy Farrant, Ella Hale, Abi Day, Meron Gessesse a Gabrielle Campbell - yn gyn-fyfyrwyr Therapi Harddwch CAVC.

Yn ystod y pythefnos wnaethant ei dreulio yn y Coleg, cafodd y Therapyddion Harddwch hyfforddiant cynhyrchion a thriniaethau Elemis. Cynhaliwyd yr hyfforddiant yn urbasba, salon a sba arloesol y Coleg, sydd wedi'i leoli ar Gampws Canol y Ddinas.

Mae CAVC hefyd yn trafod y posibilrwydd o bartneriaeth gyda’r Parkgate i drefnu lleoliadau gwaith a chyfleoedd diwydiant ar gyfer dysgwyr Therapi Harddwch Lefel 3 y Coleg.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Yn CAVC rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth agos â chyflogwyr yn gyffredinol i sicrhau bod anghenion diwydiant yn cael eu diwallu. Mae'r gwaith yma wedi dod yn bwysicach nag erioed yn dilyn effaith y pandemig ar gyflogwyr ym mhob man, gan gynnwys y diwydiant lletygarwch.

“Felly, roedden ni’n falch iawn o allu gweithio gyda gwesty moethus a nodedig Parkgate i helpu'r Therapyddion Harddwch o'i sba i baratoi ar gyfer ei agoriad proffil uchel ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Parkgate i ddarparu profiadau real nid dim ond realistig i'n dysgwyr ni.”

Gwesty Parkgate, gyda'i sba trawiadol ar y to, yw'r ychwanegiad diweddaraf at The Celtic Collection sy'n cynnwys lleoliad eiconig y Celtic Manor yng Nghasnewydd, lle cynhaliwyd Cwpan Ryder yn 2010 ac Uwchgynhadledd NATO yn 2014.

Dywedodd Chloe Simpson, Rheolwr Sba Gwesty Parkgate: “Mae'r Celtic Collection wedi mwynhau partneriaeth hir a ffrwythlon gyda Choleg Caerdydd a’r Fro ac roedd yn wych cael eu cyfleusterau hyfforddi eithriadol wrth law i'n tîm newydd yng Ngwesty Parkgate.

“Mae'r Sba yng Ngwesty Parkgate yn un o gyrchfannau lles gorau a mwyaf unigryw y ddinas ac roedd yn bwysig iawn bod ein Therapyddion Harddwch wedi'u hyfforddi'n llawn yn y cynhyrchion a'r triniaethau Elemis diweddaraf cyn ein hagoriad mawreddog. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ein cysylltiadau cadarn â CAVC yn y dyfodol.”