Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal Rowndiau Terfynol Modurol WorldSkills UK

15 Tach 2021

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro ar fin cynnal cyfres derfynol y rowndiau Modurol yn Rowndiau Terfynol mawreddog WorldSkills UK.

O ddydd Llun 15 Tachwedd, bydd Canolfan Fodurol flaenllaw y Coleg a leolir yng Nghampws Canol y Ddinas, Caerdydd yn cynnal y gystadleuaeth, gan ddod â’r bobl ifanc fwyaf dawnus o bob cwr o’r DU ynghyd. Bydd y gystadleuaeth hefyd yn dwyn cyflogwyr ac ysgolion lleol ynghyd, a byddant yn cael cyfle i weld y cystadlaethau ar waith a chymryd rhan mewn Heriau Modurol i ysbrydoli talentau’r dyfodol a gwella ymwybyddiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant.

Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills yn y meysydd canlynol:

• Ailorffen Cerbydau Modurol
• Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modurol
• Technoleg Cerbydau Trwm

Mae WorldSkills yn fudiad byd-eang sy’n cynnwys 80 o wledydd. Mae’n cynorthwyo pobl ifanc o bedwar ban byd i feithrin rhagoriaeth yn eu sector trwy gyfrwng cystadlaethau sgiliau, a bydd y bobl ifanc hynny sy’n llwyddo i ennill lle ar dimau cenedlaethol – gan gynrychioli’r gorau yn eu gwlad a’u sector – yn mynd ati i brofi eu gallu i gyrraedd safonau o’r radd flaenaf yn y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ a gynhelir bob dwy flynedd.

Fel arfer, caiff Rowndiau Terfynol WorldSkills UK eu cynnal yn flynyddol o dan un to yn yr NEC yn Birmingham; ond y tro hwn, oherwydd y pandemig, cânt eu cynnal mewn lleoliadau blaenllaw ar hyd a lled y DU, gyda’r cystadlaethau Modurol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Fodurol Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae’r cystadlaethau’n llwyddo i ennyn cefnogaeth frwd ymhlith cyflogwyr, ac maent yn arddangos rhai o’r talentau newydd gorau gerbron cyflogwyr ledled y DU yn eu diwydiant.

Ac yntau wedi cael llwyddiant blaenorol nodedig mewn cystadlaethau modurol, mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro saith o ddysgwyr yn cynrychioli Tîm Cymru ac yn cystadlu yn y rowndiau terfynol drwy gydol yr wythnos – sef Lewis Hastings, Harry Cooper a Joel Windsor yn y maes Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modur, a Siôn Lewis, Tom Venn, Callum Roberts a Dominic Duance yn y maes Ailorffen Cerbydau Modur.

Fel un o’r sefydliadau gwreiddiol i gael ei enwi’n Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK y llynedd, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn anelu at ymwreiddio hyfforddiant sgiliau o’r radd flaenaf ym mhob rhan o’i gwricwlwm. Mae cyfanswm o 19 dysgwr o Goleg Caerdydd a’r Fro yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK a gynhelir ar hyd a lled y wlad, yn cynnwys yn y meysydd Gwyddoniaeth Fforensig, Celfyddyd Gemau 3D, Teilsio Waliau a Lloriau, Gwasanaeth Bwytai, Trin Gwallt a Garddwriaeth, yn ogystal â’r rowndiau terfynol Modurol wrth gwrs.

Yn ôl Mike James, Cynrychiolydd WorldSkills UK Cymru a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydym yn llawn cyffro o gael cynnal Rowndiau Terfynol Modurol cystadlaethau WorldSkills UK yn ein Canolfan Fodurol flaenllaw.

“Dyma gyfle gwych i ddwyn ynghyd gyflogwyr a phobl ifanc fwyaf dawnus y DU yn un o’r cyfleusterau hyfforddi gorau. Gallwn hefyd ddefnyddio’r cyfle hwn i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer y diwydiant moduro, gan dynnu sylw ato fel llwybr gyrfa i blant ysgol.

“Hoffwn wneud yn fawr o’r cyfle hwn i ddymuno pob lwc i’r holl gystadleuwyr – yn ddi-os, bydd yn gystadleuaeth wefreiddiol.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi gan y cyflwynydd teledu, Steph McGovern, yn ystod digwyddiad arbennig a gynhelir yn fyw yn stiwdio ei rhaglen ‘Packed Lunch’ am 4pm ddydd Gwener 26 Tachwedd.
Caiff rhaglen WorldSkills, sy’n seiliedig ar gystadlu, effaith wirioneddol ar y rhai sy’n cymryd rhan ynddi – yn wir, dywed 90 y cant o’r rhai a fu’n cystadlu yn y gorffennol fod trywydd eu gyrfa wedi gwella ar ôl cymryd rhan ynddi, a dywed 86 y cant fod y cystadlaethau wedi rhoi hwb i’w sgiliau personol a’u sgiliau cyflogadwyedd.

Medd Ben Blackledge, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK: “Ar ôl blwyddyn pan fu’n amhosibl cynnal cystadlaethau oherwydd y pandemig, calonogol iawn oedd gweld cynifer o bobl yn cystadlu yn y rowndiau cymhwyso. Profiad cyffrous iawn yw cael mynd â’r sioe ar daith eleni, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad. Hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran, a dymuno pob lwc i gystadleuwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn eu rowndiau terfynol.

“Mae cystadlaethau a rhaglenni datblygu WorldSkills UK yn cynnig sgiliau gydol oes o’r radd flaenaf i brentisiaid a myfyrwyr – sgiliau a fydd yn eu helpu i wella rhagolygon eu gyrfa a chynyddu cynhyrchiant a chystadleurwydd y DU.”