Cydnabod Coleg Caerdydd a’r Fro am ei waith arloesol yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant

17 Tach 2021

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod fel un o’r colegau gorau yn y DU am ei waith yn hyrwyddo tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad ledled y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Mae'r Coleg wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yng nghategori Arweinyddiaeth Gynhwysol Gwobr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth. Mae’r Gwobrau Beacon mawreddog, sy’n aml yn cael eu galw’n ‘Gwobrau Oscars Colegau’, yn cydnabod sefydliadau Addysg Bellach sy’n mynd y filltir ychwanegol o ran eu gwasanaeth i ddysgwyr a’r gymuned ehangach.

Gan wasanaethu un o gymunedau mwyaf amrywiol Cymru, mae CAVC wedi ymrwymo’n gryf i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Y llynedd, symudodd y Coleg o’r 12fed safle i’r ail safle yn rhestr y Ganolfan Amrywiaeth Genedlaethol o’r 100 sefydliad gorau ar Fynegai Gweithleoedd Cynhwysol, ac enillodd wobr Coleg y Flwyddyn yng Ngwobrau Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltiad (FREDIE) y Ganolfan.

Mae CAVC yn gyson yn cydweithio gyda’i randdeiliaid i sicrhau bod ei gyfeiriad strategol, ei bolisïau a’i arferion wedi’u dylunio i hyrwyddo FREDIE. Mae’r gweithio mewn partneriaeth hwn wedi galluogi’r Coleg i ddatblygu prosiectau arloesol ac effeithiol, a chefnogi strwythurau i drawsnewid cyfleoedd dysgu ledled y Brifddinas-Ranbarth.

Mae’r prosiectau’n cynnwys gweithio gyda Chanolfan Ganser Felindre i lansio Adnodd Ymwybyddiaeth Iechyd a Chanser ar gyfer cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’i hwb canolog REACH+ ar gyfer dysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Mae REACH+ wedi bod mor llwyddiannus fel iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru.

Mae’r Coleg hefyd wedi trawsnewid llain o dir nad oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghanol Butetown i fod yn Barc Camlas, cyfleuster aml-chwaraeon penigamp i’r gymuned. Mae ei raglen Teuluoedd yn Dysgu gyda’i Gilydd yn cynnig ystod o gyrsiau ar sail gweithgareddau yn y gymuned, sydd â’r nod o alluogi rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plentyn wrth ddatblygu eu sgiliau eu hunain.

Nod hyfforddiant staff hefyd yw codi ymwybyddiaeth o FREDIE, ac mae 99% o ddysgwyr yn dweud eu bod nhw’n teimlo fel eu bod yn cael eu trin yn deg a chyda pharch. Mae’r cyfraddau llwyddiant yn gryf ym mhob rhan o’r Coleg, a does dim gwahaniaeth sylweddol ar gyfer unrhyw nodwedd warchodedig.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: "Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein cydnabod fel un o'r ddau orau yn y DU am ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod yr holl gymunedau mae'r Coleg yn eu gwasanaethu yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys.

“Fel Coleg sy’n gweithio yn un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydym yn hynod falch o’r canlyniad hwn. Mae’n golygu llawer inni oherwydd rydym yn ystyried ein hunain wrth wraidd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a bod pob myfyriwr ac aelod staff yn rhan o Deulu CAVC.

“Mae hyn yn deyrnged i’r bobl o bob rhan o’r Coleg sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod CAVC yn defnyddio dull cyflawn o ran rheoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am hynny.”

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Beacon AoC yn gynnar yn 2022.