Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn parhau i arwain y ffordd gyda'i ddull arloesol o weithredu gyda Dysgu sy’n cael ei Wella gan Dechnoleg, gan gadw ei deitl fel y Coleg Arddangos Microsoft cyntaf, a'r unig goleg o’r fath, yng Nghymru.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae CAVC wedi cael ei gydnabod fel arweinydd yn y DU am ddefnyddio technoleg ar gyfer addysgu a chefnogi dysgwyr, gan ennill gwobrau Defnydd Eithriadol o Dechnoleg ar gyfer Addysgu a Dysgu a Chefnogaeth i Fyfyrwyr yng Ngwobrau Addysg Bellach mawreddog TES. Mae statws Coleg Arddangos Microsoft yn cadarnhau ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i ddysgu digidol a dysgu sy’n cael ei wella gan dechnoleg a’i arbenigedd yn y maes.
Mae partneriaeth hirsefydlog y Coleg â Microsoft yn sylfaenol er mwyn cydnabod bod CAVC yn arwain y ffordd.
Yn ystod pandemig COVID-19, gyda’r gofyniad i weithio a dysgu gartref, llwyddodd y Coleg i ddefnyddio ei arbenigedd a’r systemau sydd yn eu lle i aros ‘ar agor’ ac ar gael fel bod ei fyfyrwyr yn gallu parhau i ddysgu, datblygu a gwneud cynnydd.
Symudodd y Coleg yr holl ddysgwyr i ddysgu o bell ac wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae wedi symud yr holl ddysgwyr i gyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb yn bennaf, gan gadw elfen o ddysgu ar-lein i bawb. Mae hyn yn rhoi sgiliau digidol ychwanegol i ddysgwyr ar draws pob cwrs, fel mae cyflogwyr eu heisiau, ac mae'n cefnogi cydbwysedd y mae’r myfyrwyr a’r staff yn ei werthfawrogi.
Mae statws Coleg Arddangos Microsoft yn adlewyrchu strategaeth ddigidol gref CAVC ac effaith hyn. Mae hyn yn cynnwys y ffocws ar arbenigedd digidol staff a'r staff ar draws y Coleg yn gwella eu sgiliau digidol eu hunain yn barhaus, gan ddefnyddio'r technolegau addysgu a dysgu diweddaraf i addysgu a chefnogi myfyrwyr.
Mae hefyd yn adlewyrchu profiad y dysgwyr, gyda phob myfyriwr yn CAVC yn cael ei gyfrif Microsoft personol ei hun a chopi cymeradwy o Microsoft Office i gefnogi’r dysgu yn y Coleg, ar y campws ac ar-lein gartref.
Y brif sylfaen ar gyfer addysgu ar-lein yw Microsoft Teams, gyda'r Coleg hefyd yn gallu cael mynediad at ystod eang o raglenni ychwanegol fel Pickit, Soundtrap a Kahoot Premium ochr yn ochr â gweithdai, adnoddau a digwyddiadau unigryw i wella profiad y dysgwr. Mae defnyddio'r adnoddau, yr wybodaeth a'r technolegau diweddaraf nid yn unig yn gwneud y dysgu'n ddiddorol ond hefyd mae'n helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith, sy'n golygu y gallant ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Microsoft wedi parhau i gydnabod ein hymrwymiad i ddysgu sy’n cael ei wella gan dechnoleg. Mae ein gwaith gyda Microsoft yn cefnogi ein strategaeth sgiliau digidol ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’n barhaus y cyfleoedd a'r dechnoleg i staff a myfyrwyr feithrin eu sgiliau digidol eu hunain.
“Mae hyn nid yn unig yn gwneud y profiad o weithio a dysgu gyda ni yn ddifyr, ond hefyd yn sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu a chefnogi ein dysgwyr. Microsoft365 a phecynnau fel Teams ac Outlook yw'r platfformau a ddefnyddir fwyaf gan fusnesau ledled y byd ac mae pob un o'n dysgwyr yn gadael y Coleg yn ddefnyddwyr hyderus ar dechnoleg Microsoft, dim ots pa gwrs maent wedi ei ddilyn - a bydd hynny'n ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.”