Coleg Caerdydd a’r Fro a FLO yn hyrwyddo urddas y mislif

7 Ion 2021

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i bartneriaeth newydd i hyrwyddo urddas y mislif a sicrhau nad oes unrhyw un yn colli cyfleoedd coleg oherwydd diffyg mynediad at gynhyrchion y mislif.

Mae'r Coleg wedi ymuno â FLO, darparwr gofal mislif organig a naturiol, i ddarparu mynediad am ddim at gynhyrchion ar gyfer myfyrwyr CAVC. Yn fusnes sy'n eiddo i ferched sy'n cyfrannu 5% o'i elw i ferched a genethod mewn angen, mae FLO hefyd yn cyfrannu cynhyrchion i sefydliadau amrywiol yn y DU sy'n cefnogi cymunedau sy'n agored i niwed.

Gall myfyrwyr CAVC fewngofnodi i wefan FLO (https://hereweflo.co), nodi cod arbennig, ac archebu eu cynhyrchion am ddim ar unwaith. Mae'r rhain yn cynnwys tamponau cotwm organig gyda a heb declyn gosod, yn ogystal â phadiau a leinwyr bambŵ, a fydd yn cael eu danfon i garreg drws y dysgwyr.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod tîm Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ein dewis ni ar gyfer eu cynllun urddas y mislif,” meddai cydsylfaenydd FLO, Tara Chandra. “Ein cenhadaeth ni erioed yw ysbrydoli pobl i deimlo'n hyderus ac wedi'u grymuso am brofiadau corfforol - ac mae'n hysbys bod y mislif yn un o bynciau tabŵ mwyaf ein bywydau ni, yn enwedig yn ystod ein harddegau.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn gwneud i ddysgwyr CAVC deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar eu siwrneiau personol gyda’r mislif a sicrhau un pryder yn llai iddyn nhw fel rhan o’u trefn ddyddiol. Drwy roi talebau digidol ar gyfer cynhyrchion a ddanfonir yn uniongyrchol i’r cartref, yn ogystal â chynnig darpariaeth ar y campws pan fydd y dysgwyr yn dychwelyd ar y campws, rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n eu helpu i ddod yn hyderus i ddeall na ddylai’r mislif fod yn rheswm dros deimlo cywilydd neu golli’r ysgol, ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar ein bod yn cael rhannu'r gwerthoedd yma gyda Choleg Caerdydd a'r Fro mewn ffordd mor effeithiol." 

Dywedodd James Donaldson, Deon Taith y Dysgwr Coleg Caerdydd a'r Fro: “Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi lansio'r ymgyrch newydd yma ar gyfer urddas y mislif. Gan weithio gyda FLO, rydyn ni’n cynnig cynhyrchion mislif am ddim i ddysgwyr ar draws ein holl gampysau.

“Gall tlodi mislif gael effaith enfawr ar bresenoldeb mewn colegau a pherfformiad hefyd. Ni ddylai unrhyw un golli'r cyfleoedd y gall Addysg Bellach eu cynnig oherwydd diffyg mynediad at gynhyrchion mislif, a dyna pam rydyn ni mor falch o fod yn gweithio ar y gwasanaeth cyfleus yma, sy’n grymuso, y mae FLO yn ei ddarparu mor garedig.”