Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi derbyn y Safon Ansawdd anrhydeddus mewn Cefnogi Gofalwyr (QSCS) gan Ffederasiwn y Gofalwyr i gydnabod y gwaith mae'n ei wneud gyda gofalwyr ifanc.
Mae CAVC yn cefnogi nifer fawr o ofalwyr ifanc sy'n dod i ddysgu gyda'r Coleg bob blwyddyn, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eu dysgu a'r cyfrifoldeb am ofalu am eraill. Nododd y Ffederasiwn fod y Coleg wedi adnabod y problemau sy'n wynebu gofalwyr ifanc, a'i fod wedi penodi Swyddog Lles penodol i weithio gyda hwy.
Tynnodd sylw hefyd at waith parhaus i ddarparu gweithgareddau ffitrwydd a llesiant i hyrwyddo ymgysylltu y tu mewn a'r tu allan i'r Coleg. Aeth Ffederasiwn y Gofalwyr ymlaen i dynnu sylw at y ffaith bod CAVC hefyd wedi cymryd camau ychwanegol i gefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod clo, fel darparu talebau prydau bwyd i'w ddysgwyr mwyaf difreintiedig ac agored i niwed.
Dywedodd Sharon James, Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Yn CAVC rydyn ni’n cydnabod y gall llawer o ofalwyr ifanc fod mewn sefyllfa lle nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Rydyn ni’n credu’n gryf y dylid cael darpariaeth yn ei lle i roi cyfleoedd iddyn nhw y maen nhw’n eu haeddu'n fawr.
"Dyna pam rydyn ni mor falch o gael QSCS Ffederasiwn y Gofalwyr. Rydyn ni wedi ymgorffori cefnogaeth i ofalwyr ifanc ar draws y Coleg ac rydyn ni’n parhau i weithio i sicrhau bod pob un o'n dysgwyr ni’n cael triniaeth a chydnabyddiaeth deg a chyfartal.”