Mae Swyddog Menter Coleg Caerdydd a'r Fro, Angus Phillips, wedi ennill gwobr am ei waith yn annog pobl ifanc i sefydlu eu busnes eu hunain – a nawr mae wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ‘sefydlu busnes’ ar gyfer yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang (16eg-20fed Tachwedd).
Mae Angus, neu ‘Start-up Gus’ fel mae’n cael ei adnabod, wedi ennill Gwobr Addysgwr Menter Genedlaethol am ei waith ar Wythnos Sefydlu Busnes yr Haf. Fel rhan o’r fenter genedlaethol hon, cydweithiodd pob un o'r 23 sefydliad Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru i roi sylw i’r angen am gefnogi a galluogi busnesau cyfnod cynnar yn ystod y pandemig.
"Roedd yn anrhydedd fawr ennill gwobr yn y Gwobrau Addysgwyr Menter Cenedlaethol, ochr yn ochr â holl sefydliadau AB ac AU eraill Cymru," meddai Angus. "Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld Hyrwyddwyr Menter eraill ac addasu i'r amgylchiadau anodd a llwyddo i greu profiad dysgu mor gefnogol ar-lein.
"Mae'r ffaith bod y digwyddiad yn llawn yn ystod pandemig byd-eang wedi profi bod egni am entrepreneuriaeth ymhlith ein dysgwyr ni ac mae wedi dangos pa mor hanfodol yw entrepreneuriaeth i addysg, gan roi'r blociau adeiladu i fyfyrwyr i greu gwell dyfodol i ni i gyd."
Mae’r wythnos yma (16eg-20fed Tachwedd) yn Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ac mae Angus wedi sefydlu cyfres o weithgareddau ar-lein i helpu i gefnogi'r egni cysylltiedig ag entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr CAVC.
Yn 'Cyfarfod y Bos', gall Angus drefnu i fyfyrwyr gyfarfod ar-lein â phobl sydd wedi sefydlu eu busnesau eu hunain yn llwyddiannus. Hefyd bydd gweithdai sefydlu busnes ar-lein rhithwir.
Mae'r rhain yn cynnwys gweithdy Datblygu Syniadau ac Ymchwil i'r Farchnad a gweithdy Canfod Cyllid a Chynllunio Busnes. Gall myfyrwyr sydd â diddordeb archebu lle drwy Borthol y Myfyrwyr.
Bydd cyngor ar-lein am ddim gan Gynghorydd Busnes proffesiynol ar gael drwy'r dydd ar ddydd Gwener 20fed Tachwedd a bydd Marchnad Myfyrwyr Cymru yn cyfeirio pobl at wefannau e-fasnach myfyrwyr.
Os ydych chi’n fyfyriwr yn CAVC ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, cysylltwch ag Angus ar Porth i Fyfyrwyr