Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol De Cymru fis Hydref eleni drwy gefnogi Mis Hanes Pobl Dduon.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon (BHM) yn cydnabod ac yn tynnu sylw at yr effaith ddiwylliannol mae pobl dduon yn y DU yn ei chael. Mae BHM yn ddathliad o bawb sy'n gwneud gwahaniaeth nid oherwydd lliw eu croen, ond oherwydd eu gweithredoedd.
Yn cael ei gynnal bob mis Hydref, nod Mis Hanes Pobl Dduon yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o hanes a phrofiad pobl dduon, dosbarthu gwybodaeth am gyfraniadau cadarnhaol pobl dduon at gymdeithas a diwylliant Prydain a chynyddu ymwybyddiaeth a hyder pobl dduon yn eu treftadaeth ddiwylliannol.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn falch o wasanaethu'r gymuned fwyaf amrywiol yng Nghymru. Mae'r Coleg wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i ymgysylltu â myfyrwyr, staff a'r gymuned i wrando a dysgu ac, yn ei dro, addysgu a chyflwyno newid sy'n cael effaith wirioneddol ar gymdeithas a'n rhanbarth ni.
Mae CCAF yn cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon ar-lein eleni drwy helpu i ddathlu a hybu'r cyfraniad enfawr mae Prydeinwyr Duon wedi'i wneud at ein cymdeithas fywiog ac amrywiol.
O sêr y byd chwaraeon ac actorion i wleidyddion a cherddorion, drwy gydol y mis bydd cyfres o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol CCAF yn rhannu lluniau a gwybodaeth am fodelau rôl. Bydd hyn yn cynnwys pobl uchel eu proffil fel Doreen Lawrence, Idris Elba, Mo Farah a Shirley Bassey.
Bydd y negeseuon hyn yn cael eu cynllunio i helpu staff, myfyrwyr a dilynwyr i ddeall sut mae ein diwylliant wedi cael ei gyfoethogi a’n cymdeithas wedi cael ei chryfhau oherwydd y bobl hyn, ac i'w hannog i rannu'r wybodaeth gyda'u ffrindiau a'u dilynwyr.
Bydd y dysgu'n parhau i fyfyrwyr CCAF drwy ymgyrch fewnol a fydd hefyd yn rhannu adnoddau, yn cynnwys gweithgareddau, cwisiau a chyfleoedd i rannu eu profiadau.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro Kay Martin: "Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni’n eithriadol falch o wasanaethu'r gymuned fwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru a chynrychioli'r holl ddiwylliannau yn Nheulu CCAF. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle gwych i adlewyrchu ar yr amrywiaeth honno a'i dathlu.
"Eleni mae'n arbennig o bwysig ein bod ni’n cydnabod ac yn dysgu am hanes pobl dduon. Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ymladd yn erbyn hiliaeth mewn addysg ac ar draws cymdeithas, ac mae gwrando ar brofiadau pobl eraill a dysgu amdanyn nhw’n chwarae rhan allweddol."