Coleg Caerdydd a'r Fro – yr unig Goleg Arddangos Microsoft yng Nghymru o hyd

28 Medi 2020

Mewn cyfnod pan fo mwy a mwy o bobl yn gweithio ac yn dysgu o'u cartref gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth, mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cadw ei deitl fel yr unig Goleg Arddangos Microsoft yng Nghymru.

Mae natur gyfnewidiol y pandemig a'r cyfyngiadau dilynol wedi golygu bod CAVC wedi symud at gyfuniad o ddysgu o bell ac addysgu wyneb yn wyneb. Mae’r statws Coleg Arddangos Microsoft yn cadarnhau ac yn adlewyrchu ymrwymiad y Coleg i ddysgu digidol a’i arbenigedd yn y maes.

Mae'r statws yn dangos bod Coleg Caerdydd a'r Fro yn arloeswr yn sector Addysg Bellach Cymru a bod ganddo strategaeth ddigidol gref. Mae'r strategaeth hon yn allweddol yn ystod cyfnodau ansicr gan ei bod yn golygu y gall y Coleg barhau i addysgu beth bynnag sy'n digwydd.

Hefyd mae statws Coleg Arddangos Microsoft yn adlewyrchu arbenigedd y staff ar draws y Coleg a'u sgiliau digidol uwch yn y technolegau addysgu a dysgu diweddaraf i gefnogi myfyrwyr. Gan ddefnyddio'r adnoddau diweddaraf, mae gwybodaeth a thechnolegau’n helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith, sy'n golygu y gallant ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

Mae'r statws hefyd yn golygu bod gan CAVC fynediad at ystod eang o raglenni ychwanegol fel Pickit, Soundtrap, Kahoot Premium a llawer mwy. Mae gweithdai, adnoddau a digwyddiadau unigryw ar gael i'r Coleg hefyd, i wella profiad y dysgwyr.

Mae pob myfyriwr yn CAVC, boed yn llawn amser neu'n rhan amser, yn cael ei gyfrif Microsoft personol ei hun a chopi cymeradwy o Microsoft Office ar gyfer ei holl ddyfeisiau, i gefnogi’r dysgu yn y coleg ar y campws ac ar-lein gartref. Y brif sylfaen ar gyfer addysgu ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o’r cyrsiau yw Microsoft Teams, ochr yn ochr â sesiynau ar y campws fel rheol.

Dywedodd Rheolwr E-Ddysgu Coleg Caerdydd a'r Fro Hannah Mathias: "Mae ein partneriaeth ni â Microsoft yn sicrhau ein bod yn gallu darparu ffordd ddiogel, hygyrch a diddorol iawn o ddysgu i bob myfyriwr ar-lein yn ogystal ag ar y campws. Mae'n hawdd ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr ifanc sy'n dod yn syth o'r ysgol yn ogystal ag oedolion sy'n dysgu. Rydyn ni i gyd wedi arfer gwylio a dysgu pethau newydd ar-lein a rhyngweithio â'n gilydd fel hyn, felly mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi'n naturiol iawn i'w ddefnyddio.  

“Rydyn ni’n defnyddio Microsoft365 a'i becynnau fel Teams ac Outlook, sef y llwyfan sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf mewn busnesau ledled y byd hefyd. Pa gwrs bynnag maen nhw’n ei ddilyn, mae pob myfyriwr yn gadael y coleg yn ddefnyddwyr hyderus ar dechnoleg Microsoft, sy'n darparu sgiliau ychwanegol real y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi."   

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni wir yn credu ym manteision dysgu ar y campws ac ar-lein ac mae’r statws Coleg Arddangos Microsoft yn cadarnhau hyn. Rydyn ni’n hynod falch o'r cyfleusterau anhygoel sydd gennym ni a'r profiad rydyn ni’n gallu ei gynnig i’r myfyrwyr ar y campws, ac mae cydbwyso hyn gydag elfen o ddysgu ar-lein i bawb wedi bod yn nod i ni erioed fel cyfeiriad i symud iddo.

"Mae ein gwaith ni gyda Microsoft a'n strategaeth sgiliau digidol yn cynnig mwy o hyblygrwydd ac, i lawer, gwell cydbwysedd rhwng bywyd personol a choleg. Mae hefyd yn rhoi sgiliau ychwanegol sylweddol i bob myfyriwr, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae'r misoedd diwethaf wedi cyflymu ein siwrnai ddigidol ac mae'r ymateb gan y myfyrwyr o bob oed wedi bod yn rhagorol, gydag adborth a chanlyniadau diwedd blwyddyn cadarnhaol iawn.  

"Yn ystod cyfnod ansicr, mae darparu'r cyfuniad yma o ddysgu ar-lein ac ar y campws i’r myfyrwyr yn golygu y gallwn ni ymrwymo i gynnig profiad dysgu gwych, cefnogol a chyson beth bynnag sy'n digwydd."