CAVC ar gyfer Busnes yn dathlu ei lwyddiant gyda’i ddysgwyr milwrol a’i ymrwymiad parhaus i weithio gyda’r Lluoedd Arfog.
Mae’r tîm Dysgu a Datblygu wedi bod yn cefnogi personél wrth gefn y Fyddin ledled Caerdydd a Bro Morgannwg gyda chwrs Defnydd o Rifau (AON) a Sgiliau Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru wedi’i gyllido.
Mae ymateb rhagorol wedi bod i raglen beilot ESW gyda Barics Maendy y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n darparu cyfle i’r personél wrth gefn uwchsgilio er mwyn galluogi iddynt wneud cynnydd a chael dyrchafiad yn y rhengoedd.
Er gwaetha’r cyfnod digynsail oherwydd argyfwng Covid-19, mae’r Tiwtor ESW Kay Chandler wedi ceisio gweddnewid y ddarpariaeth yr oedd wedi’i chynllunio, gan addasu’n gyflym o sesiynau grŵp yn y dosbarth i sesiynau un i un o bell yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithiol (VLE) yn effeithiol. Mae’r rhaglen beilot wedi bod mor llwyddiannus fel bod y Fyddin nawr yn adolygu sut gall y rhaglen gael ei hehangu i gynnwys milwyr wrth gefn ledled Cymru.
Dywedodd Nick Carter, Partner Busnes Dysgu a Datblygu: "Mae’r dysgwyr wedi bod yn hapus iawn gydag ymrwymiad a sensitifrwydd Kay yn ystod y cyfnod yma, gan weithio gyda phob dysgwr i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial ac mae’r canlyniadau’n siarad drostyn nhw eu hunain".
Cofrestrwyd grŵp o 15 o ddysgwyr ar y cwrs a hyd yma, mae 93% ohonynt wedi cyflawni naill ai AON neu Coms L2 neu’r ddau ac maent yn aros am ddilysiad ‘Ansawdd’.
Dywedodd Sarjant Stephen O’Leary o 104 Reg RA 217 Bty: “Roedd y sesiynau’n cael eu hanfon atom ni bob wythnos a hefyd roedd cyflwyniadau PowerPoint i edrych arnyn nhw. Fe addasodd CAVC yn dda i gyfyngiadau Covid ac fe wnaed yr holl waith o gartref, ac roedd y cwrs yn dda – fe wnes i ei fwynhau ac fe fyddwn i’n ei argymell i bawb. Diolch i Kay a diolch i CAVC.”
Dywedodd Karen Spencer BA (Anrh), MPhil, TAR/PCET: “Fe fyddwn i’n argymell y cwrs i eraill. Er fy mod i wedi cwblhau addysg uwch, roeddwn i’n ymwybodol iawn bod y dystiolaeth Sgiliau Hanfodol yn dod yn gynyddol bwysig ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Rydw i’n falch o fod wedi cau’r bwlch sgiliau yma nawr. Nid arian sy’n fy nghymell i, ond mae’r ffaith eich bod chi’n cael tâl am ddysgu yn fonws, ac yn fraint.”
Yn ddiweddar mae CAVC wedi ennill Dyfarniad Arian gan y Weinyddiaeth Amddiffyn drwy ei Chynllun Cydnabod Cyflogwyr, sy’n dangos y gefnogaeth barhaus mae’r Coleg yn ei rhoi i amddiffyn a chymuned y lluoedd arfog, gyda’n gwerthoedd yn cyd-fynd â Chyfamod y Lluoedd Arfog.