Mae myfyrwraig Trin Gwallt Lefel 3 Coleg Caerdydd a’r Fro, Rhian Lister, wedi bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfyngiadau symud, gan ddefnyddio pob cyfle i feithrin ei sgiliau yn torri a steilio gwallt.
Mae’r strategaeth yn talu ar ei chanfed – mae hi eisoes wedi ennill clod gan un o enwogion y diwydiant trin gwallt ac wedi dysgu llawer o sgiliau a thechnegau newydd.
Mae Rhian wedi bod yn gwarchod ei hun ers 12fed Mawrth gan fod gan ei merch hynaf asthma a diabetes Math 1.
“Fe wnaethon ni benderfynu cadw oddi wrth bobl ychydig yn gynt na phawb arall sy’n golygu ein bod ni bellach yn wythnos 14,” meddai. “Rydw i’n meddwl ei fod wedi bod yn anodd i bawb, dim ots beth yw’r sefyllfa. Rydyn ni wedi cael dyddiau da a dyddiau gwael.”
Ond mae’r fenyw 29 oed o Gaerdydd wedi canfod strategaeth – ochr yn ochr â’i chwrs yn CAVC, mae Rhian wedi bod yn gwella ei sgiliau ymhellach drwy ddilyn cymaint â phosib o gyrsiau a gwersi Trin Gwallt eraill ar-lein.
“Mae dysgu ar-lein y Coleg a’r tiwtoriaid rhagorol sydd bob amser wrth law wedi bod yn wych,” meddai Rhian, “Mae fy nhiwtor i, Nicola Hamonda, wedi bod yn anhygoel.
“Wrth astudio gartref, rydw i’n gweld ’mod i’n gwneud mwy ar rai dyddiau, ond mae’r cyrsiau a’r gwersi eraill rydw i wedi’u gwneud wedi fy helpu i i gynnal rhyw fath o ymdeimlad o normalrwydd gyda thair merch, ci a phartner!”
Mae’r cynllun i ddod drwy’r cyfyngiadau symud drwy wneud y defnydd gorau o’i hamser yn gwella ei sgiliau ac yn paratoi ar gyfer pan fydd hyn i gyd drosodd yn talu ar ei ganfed.
Mae wedi gwneud defnydd o’r holl addysg am ddim sydd ar gael ar gyfryngau cymdeithasol, o hyfforddiant iechyd a diogelwch ar ddiheintydd salon Barbicide i hyfforddiant ar driniaethau Olaplex. Hefyd mae hi wedi dilyn cyrsiau ar-lein ar sut i ganfod arwyddion bod cleientiaid yn ystyried hunanladdiad a hyfforddiant ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, Behind the Mask, ar gyfer y Diwydiant Gwallt a Harddwch.
Hefyd mae Rhian wedi mynychu pob dosbarth hyfforddi am ddim sy’n cael eu cynnig gan Goldwell ac wedi cymryd rhan mewn tiwtorial torri gan Jeremy Rocas, Uwch Steilydd yn y salon uchel ei barch, Not Another Salon, lle cwblhaodd ei steil ‘shag’. Mae wedi dysgu ei hun i greu wig ac wedi dilyn cwrs achrededig mewn blew amrannau Rwsiaidd.
Mae Rhian hefyd yn mynychu gwersi’r arbenigwr enwog ar wallt hir, Patrick Cameron, ar Facebook bob dydd Llun a doedd hi ddim yn gallu credu pan aeth ar-lein i ganmol y lluniau o’i gwaith yr oedd wedi’u rhoi ar Instagram.
“Pan wnaeth Patrick Cameron ganmol fy ngwaith i a gwneud amser i wneud sylw a hoffi fy negeseuon i ar gyfryngau cymdeithasol, roedd yn anhygoel,” meddai Rhian. “Roedd yn hwb enfawr i fy hyder i ac roeddwn i’n sgrechian gyda chyffro!”
Mae’r cyfyngiadau symud wir wedi bod yn brofiad dysgu i Rhian.
“Rydw i’n teimlo bod yr amser yma wedi rhoi cyfle i bobl adlewyrchu ar bopeth, o deulu i’r dyfodol,” meddai. “Mewn ffordd, fe allwn ni fod yn ffodus bod ein dau fyd ni’n rhyngblethu – mae fy merched i wedi dod i hoffi trin gwallt o oedran ifanc.
“Mae gallu astudio ar-lein yn golygu bod pobl yn gallu defnyddio’r amser yma i ddysgu a datblygu eu gyrfa.”
Mae’n teimlo bod dilyn cwrs Trin Gwallt Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi bod o help mawr iddi allu gwella ei sgiliau yn y ffordd mae hi wedi gwneud.
“O edrych yn ôl, byddai wedi bod yn well pe bawn i wedi dilyn y cwrs flynyddoedd yn ôl,” meddai Rhian, “Rydw i wrth fy modd yn trin gwallt ac mae’r tiwtoriaid yn gwneud i ni feddwl y tu allan i’r bocs a chanolbwyntio ar syniadau newydd a difyr.
“’Alla’ i ddim dychmygu y byddwn i wedi gallu cyflawni’r hyn rydw i wedi’i wneud heb y cwrs yma. Mae gen i swydd yn barod mewn salon ond fe fydda’ i’n dal ati gyda’r cyrsiau i wneud yn siŵr ’mod i’n diweddaru fy sgiliau a’u bod nhw’n cadw at y ffasiwn ddiweddaraf. Fe fyddwn i wrth fy modd yn ennill cymhwyster Meistr Lliw Goldwell a chael fy salon fy hun yn y dyfodol.”
Dywedodd tiwtor Rhian, Nicola Hamonda: “Yn ychwanegol at yr holl gyrsiau mae Rhian wedi’u dilyn, mae hi hefyd wedi cynhyrchu gwaith bob wythnos ar gyfer fy sesiynau rhithiol i ar-lein a chwblhau asesiadau tuag at ei chwrs Trin Gwallt Lefel 3. Rydw i’n eithriadol falch ohoni.”