Mae cyn fyfyrwraig Gradd Sylfaen yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Amanda Truman, newydd raddio gyda gradd lawn a Dosbarth Cyntaf – yr anrhydedd fwyaf bosib.
Graddiodd Amanda – sydd “wedi gwirioni” gyda’i Dosbarth Cyntaf – gyda Gradd Sylfaen dwy flynedd mewn Gofal Ieuenctid a Chymdeithasol yn 2019, gydag anrhydedd cadarn. Penderfynodd barhau â phrifysgol partner y Coleg, Prifysgol De Cymru (PDC), ar gyfer blwyddyn ychwanegol er mwyn graddio gyda BSc (Anrh) llawn mewn Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid.
Ymunodd Amanda â CAVC fel myfyrwraig aeddfed gan fod gan ei mab Anghenion Dysgu Ychwanegol ac roedd eisiau dysgu mwy am y problemau yr oedd yn eu dangos.
“Fe wnes i edrych ar wefan CAVC i ddechrau a gweld cwrs Gofal Ieuenctid a Chymdeithasol,” esboniodd. “Fe wnes i gais gan feddwl mai cwrs coleg oedd e ond, ar ôl derbyn, fe wnes i sylweddoli ei fod yn gwrs prifysgol.”
Mae Graddau Sylfaen yn cyfateb i dri chwarter gradd baglor anrhydedd llawn. Fel cymhwyster galwedigaethol Lefel 4 a Lefel 5, gall graddedigion symud ymlaen yn syth i rôl o’u dewis neu fynychu prifysgol am drydedd flwyddyn i ennill gradd lawn.
“Roeddwn i’n nerfus oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo ’mod i ddigon da i brifysgol oherwydd roedd blynyddoedd lawer wedi mynd heibio er pan oeddwn i yn yr ysgol,” dywedodd Amanda. “Fe wnes i feddwl gadael, ond wedyn fe wnes i siarad ag arweinydd y cwrs, wnaeth gael gwared ar unrhyw bryderon oedd gen i a rhoi hyder i mi ddal ati.”
Ar ôl i’w hofnau ar y dechrau gilio, fe setlodd Amanda yn gyflym iawn.
“Fe wnes i fwynhau fy amser yn astudio yn CAVC yn fawr,” meddai. “Roedd y tiwtoriaid yn anhygoel ac roeddwn i’n teimlo ’mod i’n cael cefnogaeth dda, nid dim ond yn academaidd, ond yn bersonol hefyd.
“Fe wnes i fy lleoliad gwaith dwy flynedd yn CAVC hefyd, yn yr Adran Ehangu Cyfranogiad, yn ystod fy nghyfnod astudio o ddwy flynedd. Roedd yn grêt i ddangos i mi pa sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda phobl ifanc.”
Aseiniad olaf Amanda ar gyfer y Radd Sylfaen oedd prosiect ymchwil bychan. Fe wnaeth hwn am ei lleoliad gwaith yn y Coleg.
“Fe wnaeth arweinydd y cwrs fy ngwahodd i i gyflwyno’r canlyniadau yng Nghynhadledd Addysg Uwch flynyddol y Coleg,” meddai. “Er ’mod i’n nerfus, fe aeth y cyflwyniad yn dda ac roeddwn i’n ddiolchgar am y cyfle i ddatblygu fy sgiliau proffesiynol.”
Ar ôl graddio o CAVC y llynedd, penerfynodd Amanda y byddai’n derbyn y cynnig sy’n agored fel rheol i raddedigion Graddau Sylfaen – y cyfle i dreulio blwyddyn yn y brifysgol ac ychwanegu at ei gradd i ennill gradd lawn.
“Wrth symud ymlaen i flwyddyn ychwanegol ar gampws PDC, roeddwn i’n teimlo bod fy nghyfnod i yn CAVC wedi fy mharatoi i’n academaidd i ddal ati gyda fy astudiaethau,” meddai. “Er hynny, roedd yn amgylchedd cwbl wahanol ac fe gymerodd amser i ddod i arfer ag e.”
Yn debyg iawn i CAVC, fe setlodd Amanda yno’n fuan, gweithio’n galed ac roedd ar y llwybr at radd dosbarth cyntaf. Wedyn fe ddaeth y pandemig a bu’n rhaid iddi ddechrau dysgu o bell.
“Roeddwn i’n ei chael yn eithriadol anodd astudio gartref a doeddwn i ddim yn teimlo ’mod i’n gallu gwneud fy ngorau. Roeddwn i wedi dweud wrtha’ i fy hun bod dosbarth cyntaf yn amhosib,” meddai. “Ond fe gefais i ddosbarth cyntaf yn y radd o fy newis i, BSc (Anrh) Troseddeg, Cyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid, ac rydw i wedi gwirioni ac yn eithriadol falch o fy nghanlyniadau.”
Fe wnaeth Amanda ystyried aros i gwblhau cwrs Meistr ond mae wedi penderfynu yn erbyn hynny am y tro, ond nid yw wedi diystyru’r opsiwn yn llwyr. Mae’n gobeithio gweithio gyda phobl ifanc sy’n rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid ac mae’n credu’n gryf y bydd ei chyfnod yn CAVC a PDC yn ei helpu i gyrraedd y nod yma.
“Rydw i’n hynod ddiolchgar i fy nhiwtoriaid i yn CAVC, yn enwedig Victoria Macmillan ac Ali McSorley, am eu cefnogaeth a’u harweiniad cyson drwy gydol y cwrs,” dywedodd Amanda. “Yn olaf, fe hoffwn i dalu teyrnged hefyd i Lisa Bowditch, y tiwtor wnaeth gydysgrifennu’r radd sylfaen, a fu farw yn drist iawn yn ystod fy mlwyddyn gyntaf i. Hi roddodd yr hyder i mi i ddal ati.”