Mahima o Goleg Caerdydd a’r Fro yn lansio ei gyrfa gyda phrentisiaeth yn Senedd Cymru

10 Meh 2020

Mae ei phenderfyniad i lansio’i gyrfa â phrentisiaeth yng Nghymru yn hytrach na gradd brifysgol yn talu ar ei ganfed i Fwslim ifanc sydd eisoes wedi ennill gwobrau.

Mae Mahima Khan, 20 oed, o Gaerdydd, wedi cwblhau prentisiaeth sylfaen (Lefel 2) mewn gweinyddu busnes ac wedi symud ymlaen i wneud diploma Lefel 3, gan weithio yn Senedd Cymru.

Cyflwynir y rhaglen ddysgu ar ran Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) gan y JGR Group fel rhan o gonsortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau.

Enillodd Mahima wobrau Prentis y Flwyddyn a Phrentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes yng ngwobrau blynyddol y Gynghrair Ansawdd Sgiliau ym mis Mawrth. Cafodd ei henwebu hefyd ar gyfer Gwobr y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwobrau Prentisiaethau’r Deyrnas Unedig ar gyfer Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) a gynhelir yn nes ymlaen eleni.

Bu ei chyfnod yn gweithio yn yr adrannau addysg, adnoddau dynol a’r gwasanaeth ymchwil yn y Senedd yn brofiad gwerthfawr i Mahima a llwyddodd i gael swydd barhaol yn swyddog cymorth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mae wedi cyfrannu at ddatblygu strategaethau recriwtio a derbyn y Senedd, mae’n cydgadeirio’r rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ac mae’n mynd ati gydag angerdd i gynrychioli’r gymuned o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. 

Fe gyfrannodd at sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, gan helpu yn y broses o ddewis 60 o aelodau o blith y 450 o ymgeiswyr. Yn ogystal, dewiswyd hi i ymuno â phenaethiaid gwasanaethau mewn grŵp ffocws a ffurfiwyd i benodi cyfarwyddwr cyfathrebu newydd i’r Senedd.

“Fe wnaeth hyn fy ngrymuso a’m hysgogi gan fy mod ynghanol pobl sydd mewn swyddi y gallwn i, efallai, eu gwneud rhyw ddiwrnod,” medda Mahima. “Yn dilyn fy lleoliadau gwaith mewn gwahanol adrannau, roeddwn yn ddigon hyderus i ymgeisio am swydd barhaol.

Yn ystod ei phrentisiaeth, dysgodd sut i greu briff cyhoeddi ac ymchwil, rheoli a chynnal adnoddau gwybodaeth yn y llyfrgell, ehangu casgliad digidol trwy greu cofnodion catalogio newydd, ac ysgrifennu a golygu gwybodaeth ddwyieithog ar gyfer Aelodau’r Senedd.

Wrth feddwl am ei diwrnod cyntaf fel prentis yn Senedd Cymru, roedd Mahima’n cyfaddef ei bod yn nerfus.

“Roeddwn i’n poeni na fyddwn i’n teimlo ’mod i’n perthyn yma ac y byddai pobl yn edrych i lawr arna i am fy mod yn Fwslim ifanc sy’n gwisgo hijab,” meddai. “Doedd dim angen i mi boeni oherwydd mae pawb yn y Senedd wedi bod yn gefnogol iawn ac yn wych.

“Ers y diwrnod cyntaf, rwy wedi cael croeso mawr ac rwy’n gobeithio aros yma i gael bod yn esiampl i ferched ifanc Mwslimaidd eraill. Rwy yma i gynrychioli’r mwyafrif, nid y lleiafrif, ac rwy mor falch mod i wedi setlo mewn gweithle lle nad ydw i wedi profi rhagfarn na chamwahaniaethu.

“Yn fy mlwyddyn gyntaf fel prentis, dysgais sut i ddod i wybod mwy am y bobl o fy nghwmpas ac arweiniodd hynny fi i wneud mwy i helpu pobl eraill oedd wedi cael profiadau tebyg i mi. Mae gan bawb stori wahanol. Rwy’n gobeithio gallu rhannu fy stori i gyda rhagor o bobl oherwydd rwy’n credu y gallwn i wneud gwahaniaeth.

“Rwy’n falch o gael bod mewn sefyllfa lle gallaf siarad dros y gymuned BAME. Rwy hefyd yn credu’n gryf mewn prentisiaethau achos maen nhw’n sicr yn gallu newid eich bywyd.

“Dim ond un arall o fy ffrindiau ysgol ddewisodd wneud prentisiaeth yn lle mynd i’r brifysgol. Mae llawer o fy ffrindiau sydd yn y brifysgol yn dweud eu bod yn difaru eu penderfyniad oherwydd mae gennym ni swyddi parhaol cyn iddyn nhw raddio a bydd raid iddyn nhw ad-dalu eu benthyciad myfyrwyr.

Mae’n awyddus i annog rhagor o bobl o’r gymuned BAME i ddilyn yn ôl ei throed yn hyderus er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth yn y Senedd.

“Fy uchelgais i yw aros yn y Senedd, dal ati i weithio'n galed, dal i gael fy nghydnabod a, gobeithio, symud ymlaen i swydd uwch lle gallaf gyfrannu mwy at y tîm recriwtio er mwyn ceisio sicrhau bod pobl o bob cefndir yn ymgeisio am swyddi yma," meddai Mahima.

“Mae fy ffydd gref wedi bod o help mawr i hybu fy hyder wrth weithio yn y Senedd. Mae Islam yn dysgu llawer i chi, er enghraifft, os ydych chi’n credu ynoch chi’ch hunan gall unrhyw beth ddigwydd.

Diolchodd i’w mam am ei hannog i ymgeisio am y brentisiaeth a’i rheolwr hyfforddiant yn y JGR Group, Lydia Harris, am ei chefnogaeth, gan ddweud: “Byddaf yn fythol ddiolchgar am gael pobl mor anhygoel yn rhan o fy nhaith.

Dywedodd Humie Webbe, arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyffordiant Cenedlaethol Cymru: ‘Mae Mahima yn llysgennad gwych dros brentisiaethau ac mae ei chariad at ddysgu yn disgleirio trwy ei stori.

“Mae’n wych clywed bod Mahima’n awyddus i ddefnyddio’i phrofiad i helpu merched ifanc sydd heb lawer o hunanhyder a’r gobaith yw y bydd ei stori’n ysbrydoli pobl eraill o gefndir BAME i ystyried prentisiaethau.

Dywedodd pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni fel coleg o’r farn ei bod yn hanfodol i ni gynrychioli’r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac rydym yn eithriadol o falch o Mahima am ddangos mor glir bod prentisiaethau’n llwybr gyrfa gwerthfawr i bawb, o bob cefndir.

“Mae Mahima’n batrwm ar gyfer prentisiaid ym mhob man, yn enwedig rai o gefndiroedd BAME. Mae’n siŵr o fynd yn bell a defnyddio’i phrofiadau a’i hymroddiad i annog eraill i wneud yr un peth.

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor.

Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).