Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal sioe diwedd blwyddyn ar-lein i ddathlu gwaith ei fyfyrwyr Creadigol

5 Meh 2020

Bydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn lansio sioe diwedd blwyddyn ar-lein am ddim i’w gwylio ar gyfer y myfyrwyr Diwydiannau Creadigol ddydd Mawrth, 9fed Mehefin.

Yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud a chau’r safle, mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd o arddangos gwaith gwych ei fyfyrwyr o dan amgylchiadau anodd. Mae sioe diwedd blwyddyn rithiol ar gyfer myfyrwyr Diwydiannau Creadigol y Coleg yn esiampl bellach o sut mae CCAF yn gwneud hynny.

Bydd y Sioe Greadigol eleni ar ffurf oriel rithiol a gofod perfformio, gyda gwaith y dysgwyr yn cael ei arddangos ar-lein mewn fformat proffesiynol.                    

Bydd yr oriel gyntaf yn mynd yn fyw ar y 9fed ac yn dangos gwaith y dysgwyr Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Celf a Dylunio o Academi Greadigol y Coleg. Yma fe welwch chi esiamplau o gelf y cyfyngiadau symud wedi’i greu a’i ddatblygu yn ystod yr wythnosau diwethaf ar gyfer eu prosiectau terfynol.

Bydd yr arddangosfa’n dangos gwaith amrywiol o feysydd cwricwlwm arbenigol y cwrs Sylfaen, gan gynnwys Celfyddyd Gain, Ffasiwn a Thecstilau, 3D a Chyfathrebu Graffig a Darlunio. Bydd yr orielau eraill gyda gwaith myfyrwyr o amrywiaeth eang CCAF o gyrsiau creadigol yn cael eu hychwanegu at yr arddangosfa rithiol a’r gofod perfformio yn ystod y dyddiau dilynol.

Dywedodd Pennaeth Diwydiannau Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro ac aelod o fwrdd Cymru Greadigol, Kristen Harries: “Rydw i mor falch o’r ffordd mae’r myfyrwyr a’r staff wedi ymddwyn yn ystod y cyfnod yma o ansicrwydd. 

“Maen nhw wedi dod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous o arddangos eu gwaith drwy bortffolios ar-lein; gigiau rhithiol; a defnyddio platfformau digidol amrywiol i arddangos eu ffilmiau ac ati – mae sbectrwm llawn o ffyrdd newydd o addysgu a dysgu wedi cael ei ddefnyddio. Rydw i mor falch bod y myfyrwyr yn dal i gael cyfle i arddangos yr holl waith rhagorol maen nhw wedi’i wneud drwy gydol y flwyddyn – er mai yn rhithiol mae hynny – mae mor bwysig bod eu gwaith caled a’u talent yn cael eu cydnabod.

“Mae’r cynnydd mewn celf a chreadigrwydd ar hyd a lled y wlad yn ystod y cyfnod disgynsail yma wedi bod yn arwyddocaol a’i werth wedi cael ei gydnabod. Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn gyfle i ni werthfawrogi’r gwerth hwnnw – pan mae hyn i gyd drosodd, rhaid i ni gofio sut mae pethau fel y teledu, ffilmiau, y radio, Netflix, iTunes, llyfrau llafar, blogiau, cyngherddau ar-lein ac Youtube wedi ein helpu ni – mae’r Celfyddydau wedi ein helpu ni drwy hyn!”

Dywedodd Pennaeth CCAF Kay Martin: “Mae hwn wedi bod yn gyfnod rhyfeddol ond mae’r myfyrwyr wedi dal ati i weithio’n galed a gwneud gwaith rhagorol er gwaetha’r amgylchiadau eithafol. Maen nhw wedi gorfod gweithio heb y cyfleusterau, y deunyddiau neu’r offer arferol ond ’dyw hynny ddim wedi eu stopio – maen nhw wedi wynebu’r her yn llawn hyder.

“Mae’r Sioe Greadigol ar-lein yma’n un o’r esiamplau ysbrydoledig niferus o sut mae staff a myfyrwyr CCAF wedi dal ati i weithio o bell gan ddysgu, datblygu a gwneud cynnydd mewn ffyrdd arloesol. Wedi dweud hynny, gobeithio y bydd sioe y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal yn y Coleg ei hun.”

Bydd Sioe Greadigol CCAF yn mynd yn fyw ddydd Mawrth 9fed Mehefin yn www.cavccreativeshow.co.uk.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y Diwydiannau Creadigol, cofrestrwch ar-lein ar gyfer Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 CCAF yn /en/virtualopenday i gael mwy o wybodaeth am amrywiaeth gynhwysfawr y Coleg o gyrsiau Creadigol.