Mae myfyriwr Celf Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Jacob David wedi cael ei ddewis i arddangos yn Sioe Haf Artistiaid Ifanc yr Academi Frenhinol.
Mae Sioe Haf yr Artistiaid Ifanc yn arddangosfa i bobl ifanc pump i 19 oed i gydnabod artistiaid ifanc talentog. Mae’n cael ei chynnal ar-lein ac ar y safle yn Academi Frenhinol y Celfyddydau.
Bydd gwaith Jacob - Afluniad Emosiynol, darn ffotograffig lle mae’n defnyddio ei hun i gynrychioli gwahanol emosiynau – yn ymddangos yn yr arddangosfa ar-lein.
“Mae’n sioc a dweud y gwir – roedd y darn yn gwthio fy ffiniau i o ran beth rydw i’n gyfforddus ag e ac mae’n mynegi emosiynau sy’n eithaf bregus,” meddai am gael ei ddewis. “Mae’n eithriadol gyffrous y bydd yn cael ei weld yn yr arddangosfa ochr yn ochr â gwaith mor dalentog – mae cael fy lluniau i, yr ydw i mor falch ohonyn nhw, allan yn y byd yn rhoi rhyw deimlad o ryddid mewn ffordd ryfedd.”
Roedd gan Jacob ddiddordeb yn y Celfyddydau o oedran ifanc ac mae ar fin symud o CAVC i astudio gradd mewn Dylunio Graffeg yn yr enwog Central Saint Martins, rhan o Brifysgol y Celfyddydau Llundain.
“Dim ond yn ddiweddar mae wedi fy nharo i y byddaf yn mynd i’r brifysgol celf anhygoel yma ar ddiwedd y flwyddyn ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at wthio fy hun ymhellach ac ymhellach gyda fy ngradd,” dywedodd Jacob, sy’n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd. “Mae Llundain yn gam mawr o Gaerdydd ond mae gen i goesau hir, a bydd yn cynnig cyfleoedd anhygoel a phrofiadau newydd – croesi bysedd!”
Mae Jacob yn credu bod ei gyfnod yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi ei baratoi ar gyfer symud ymlaen ar ei lwybr gyrfaol yn cyfuno celf a dylunio.
“Rydw i wir yn teimlo na fyddwn i wedi cyflawni hyn heb help fy nhiwtoriaid anhygoel i,” meddai. “Mae fy nhiwtor Celf i, Greta Wallner, wedi fy ngwthio i i’r eithaf ac ymhellach yn fy ngwaith, ac mae Dylan Jones fy nhiwtor Graffeg wedi fy annog i bob amser i feddwl y tu allan i’r bocs a dod o hyd i ffyrdd newydd o drin briff.
“Fe wnaethon nhw roi’r pŵer i mi i baentio fy hun a sefyll o flaen camera. Maen nhw’n bobl dda iawn ac rydw i’n mynd i’w colli nhw, a fy nhiwtoriaid eraill hefyd.”
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Mae cael fy newis ar gyfer Sioe Haf Artistiaid Ifanc yr Academi Frenhinol yn gyflawniad enfawr – llongyfarchiadau mawr i Jacob. Mae’r ffaith ei fod yn symud ymlaen i Brifysgol anrhydeddus Central Saint Martins yn brawf o’i dalent, a hefyd o’r gefnogaeth a’r anogaeth mae wedi’u cael yn ystod ei gyfnod gyda ni.”
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn un o amrywiaeth eang o gyrsiau Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro, cliciwch ymai ymweld â’n Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 ar unrhyw adeg.