Mae Amy Bradbury, myfyrwraig Safon Uwch ac aelod o Academi Pêl Rwyd Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod argyfwng y Coronafeirws yn gwneud Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer staff y GIG.
Ar ôl gweld hysbyseb ar wefan chwilio am swyddi, mae Amy bellach yn gweithio’n llawn amser i PMP Recruitment, yn gwneud feisors y GIG yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.
“Roeddwn i’n chwilio am gyfle i helpu’r gymuned yn ystod y cyfnod heriol yma,” esboniodd Amy, sy’n 18 oed ac yn dod o Borthcawl.
Mae Amy yn gweithio rhwng dydd Llun a dydd Gwener, gan wneud shifftiau bore, pnawn a nos am yn ail, yn gwneud feisors neu’n cynnal asesiadau ansawdd. “Mae’n rôl hyblyg iawn ac rydw i’n mwynhau’n fawr,” ychwanegodd.
Mae ei mam a’i chwaer yn y Bathdy Brenhinol hefyd yn gwneud feisors, ond maen nhw ar shifft wahanol. Dywedodd Amy ei bod wedi mwynhau rhannu’r profiad gyda nhw.
“Mae’n gyfle gwych i mi ddatblygu fy sgiliau a hefyd cael profiad o swydd lawn amser i helpu fy natblygiad yn y dyfodol,” meddai Amy. “Mae’r Bathdy Brenhinol yn amgylchedd gwych i weithio ynddo ac rydw i wedi gwneud ffrindiau grêt.”
Wrth astudio ei chwrs Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, roedd Amy yn chwarae gydag Academi Pêl Rwyd y Coleg hefyd. Mae’r Academi Pêl Rwyd yn rhan o ystod gynyddol y Coleg o Academïau Chwaraeon. Y nod yw darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r safon uchaf gyda phortffolio CCAF o gyrsiau, sy’n prysur ehangu. Gall myfyrwyr yr Academi Pêl Rwyd astudio cyrsiau Safon Uwch neu alwedigaethol wrth hyfforddi i fod yn sêr pêl rwyd y dyfodol.
“Rydw i wir yn teimlo bod yr academi pêl rwyd, a fy nghwrs safon uwch, wedi dysgu sgiliau i mi yr ydw i wedi eu trosglwyddo i’r rôl yma,” dywedodd Amy. “Mae gorfod addasu i newidiadau a defnyddio sgiliau trefnu a meddwl yn rhesymegol wedi fy mharatoi i i daclo’r heriau y byddaf yn eu hwynebu yn y gwaith efallai.”
Ar ôl dwy flynedd yn CCAF, mae Amy yn symud ymlaen i astudio Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer ym Mhrifysgol Sir Hertford yn awr.
“Rydw i wir yn gyffrous am fynd i’r brifysgol oherwydd bydd yn gyfle arall gwych i mi,” meddai Amy. “Mae cynnwys y cwrs ac addasu i fywyd y coleg wedi fy helpu i yn sicr i gael lle yn y brifysgol.
“Rhaid i mi ddiolch yn fawr iawn i fy athrawon a fy hyfforddwyr am fy helpu i drwy’r ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd yn gam mawr i mi o’r ysgol uwchradd a theithio o gartref.”