Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ailgadarnhau ei ymrwymiad i staff a myfyrwyr drwy ymrwymo i siarter iechyd a lles y meddwl cenedlaethol newydd sbon yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
Wedi’i chreu gan Gymdeithas y Colegau ar y cyd ag arbenigwyr iechyd meddwl, mae’r ddogfen 11 pwynt yn cynnwys ymrwymo i’r canlynol:
Bob blwyddyn, mae un o bob deg person ifanc yn profi problem iechyd meddwl ac mae un o bob pump o bobl 16 i 24 oed yn profi salwch iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder ac iselder. Ychwanegwch at hynny’r ffaith bod 75% o’r oedolion sydd â phroblem iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis ar ei chyfer yn profi eu symptomau cyntaf cyn troi’n 24 oed, ac mae’n glir bod Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi iechyd a lles y meddwl ei 30,000 o fyfyrwyr a’i 1,000+ o staff.
Dywedodd Pennaeth CAVC, Kay Martin: “Rydyn ni fel coleg yn gweld y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu fel rhan greiddiol o bopeth rydyn ni’n ei wneud. Dyma pam, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd â hwn, ein bod ni’n ailgadarnhau ein hymrwymiad i warchod iechyd a lles y meddwl ar gyfer ein myfyrwyr a’n staff drwy lofnodi’r siarter.”
Dywedodd Richard Caufield, Arweinydd Iechyd Meddwl gyda Chymdeithas y Colegau: “Bob un dydd mae colegau fel Coleg Caerdydd a’r Fro yn darparu addysg o safon byd ac yn trawsnewid bywydau miliynau o bobl. Mae hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth i les y myfyrwyr a’r staff ar yr amser iawn yn y lle iawn.
“Mae’r siarter yma’n gyfle i golegau ddatgan yn gyhoeddus eu hymrwymiad i’r agenda iechyd meddwl.”