Gweithiwr allweddol a myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Chloe yn cefnogi pobl ag anableddau

21 Mai 2020

Mae Chloe Thurlbert, myfyrwraig Therapi Harddwch Lefel 2 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn ddysgwr arall o CCAF sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig.

Yn ei rôl fel Gweithiwr Cefnogi, mae Chloe yn helpu pobl ag anableddau i fyw yn annibynnol, gan gynnig cefnogaeth wahanol i bobl ag anghenion gwahanol. Mae ei dyletswyddau yn amrywio o weithgareddau dyddiol personol, coginio, glanhau, siopa a meddyginiaethau i ofal arferol o ddydd i ddydd.

Mae Chloe wedi bod yn gweithio mewn tŷ â chymorth am ychydig dros flwyddyn.

“Fe wnes i gais am y swydd yma gan fy mod i eisiau helpu pobl a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl,” meddai’r ferch 21 oed o’r Barri. “Fe welais i’r swydd yma a chael cyfweliad, oedd yn llwyddiannus.”

Mae gweithio mewn llety â chymorth yn ystod y pandemig wedi bod yn heriol. Ochr yn ochr â’i chwrs, mae Chloe ar hyn o bryd yn gwneud shifftiau dydd hir a shifftiau nos 13 awr.

“Rydw i wrth fy modd yn gwneud hyn ond yn y cyfnod ansicr yma mae’n anodd iawn oherwydd does dim un o’r cleientiaid yn cael gadael y tŷ i wneud eu pethau o ddydd i ddydd,” esboniodd Chloe. “Weithiau mae hynny’n gallu bod yn anodd ei ddeall iddyn nhw ond mae am y gorau!

“Felly rydyn ni wedi bod yn cael cwisiau, barbeciws, brwydrau dŵr, gemau a phosau.”

Mae Chloe yn credu bod ei chwrs hi yn CCAF wedi ei helpu yn fawr gyda’i sgiliau i allu cynllunio ac amseru ei diwrnod gwaith, a gyda’i hyder a’i gallu i gyfathrebu gyda phobl o gefndiroedd a phroffesiynau amrywiol.

“Hefyd fe fyddwn i’n hoffi diolch i fy nhiwtoriaid i am fod mor barod i ddeall yn ystod y cyfnod yma a rhoi ychydig mwy o amser i mi i wneud pethau, gan nad ydi fy shifftiau i’n hawdd ac mae gweithio dros nos a shifftiau hir yn gallu ei gwneud yn anodd dod o hyd i amser i wneud pethau,” meddai.