Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynnal diwrnod agored tra gwahanol – bydd ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
Bydd Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 CCAF yn cael ei lansio ddydd Llun, 18fed Mai. Bydd yn cynnig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwrs yn CCAF gyfle i ddysgu mwy am y Coleg mewn ffordd hyblyg.
Fel unrhyw ddiwrnod agored confensiynol, bydd yr ymwelwyr yn gallu gwrando ar ddarlithwyr yn siarad am gyrsiau’r Coleg, staff cefnogi yn esbonio pa gefnogaeth sydd ar gael, darllen mwy am gyrsiau CCAF, dod i wybod am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael yn CCAF, fel lleoliadau gwaith ac academïau chwaraeon, edrych ar y cyfleusterau ar deithiau rhithiol, cyflwyno cwestiynau i staff a chlywed yn ôl ganddynt yn uniongyrchol, a gwneud cais am gyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi. Y gwahaniaeth yw y gallant wneud hyn ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos – beth bynnag sydd fwyaf cyfleus iddynt hwy.
Ers i gampysau’r coleg gau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb ym mis Mawrth, mae’r Coleg wedi parhau i addysgu, cefnogi a datblygu ei ddysgwyr presennol. Hefyd mae’n derbyn ceisiadau ar gyfer mis Medi ac yn eu prosesu’n gyflym ar gyfer pawb sydd eisiau dechrau cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, gyda chyngor a chefnogaeth benodol i’r rhai sy’n gadael Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 heb raddau wedi’u cadarnhau, i sicrhau nad yw hyn yn sefyll yn eu ffordd o ran derbyn lle wedi’i warantu ar gyfer dechrau ym mis Medi.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Fe wnaethon ni sylweddoli bod pobl, yn ystod y cyfnod anodd yma, yn jyglo llawer o ymrwymiadau ac efallai nad ydyn nhw’n gallu bod o flaen cyfrifiadur ar ddyddiad ac amser penodol ar gyfer diwrnod agored rhithiol. Roedden ni’n teimlo ei fod yn annheg i’r bobl yma golli’r cyfle i gael gwybod mwy am beth all Coleg Caerdydd a’r Fro ei wneud iddyn nhw.
“Oherwydd hynny, rydyn ni’n lansio Diwrnod Agored 24/7. Wedyn byddwch yn gallu dod o hyd i wybodaeth hwylus am bob agwedd ar fywyd y Coleg mewn un lle, a dod o hyd iddi ar yr amser gorau i chi.
“Rydyn ni’n gweithio, yn addysgu ac yn cefnogi’r myfyrwyr, yn prosesu ceisiadau ac yma i gefnogi unrhyw un sy’n ystyried dechrau gyda CCAF ym mis Medi.”
I gofrestru ar gyfer Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 CCAF, ewch i www.cavc.ac.uk/virtualopenday.