Myfyrwraig o Goleg Caerdydd a’r Fro Ellie yn darparu gwasanaeth rheng flaen hanfodol ar ward mamolaeth

13 Mai 2020

Mae Ellie Clark, myfyrwraig Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi dychwelyd i reng flaen y GIG, gan weithio yn llawn amser ar y ward mamolaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ar ôl gweithio ar y ward dair blynedd yn ôl fel Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd, mae’r ferch 22 oed o Lanilltud Fawr wedi bod yn gweithio’n rhan amser tra oedd yn astudio yn CAVC. Ond pan orfododd pandemig y Coronafeirws y DU i gadw at gyfyngiadau symud, dychwelodd Ellie i weithio yn llawn amser ym mis Mawrth.
Mae dyletswyddau Ellie yn cynnwys cefnogi mamau a babanod newydd ar y ward cyn-geni ac ôl-eni, a chynorthwyo yn y theatr ar y ward geni.

“Oherwydd amgylchiadau argyfwng y pandemig, fe wnes i ddychwelyd i’r Adran Bydwreigiaeth yn llawn amser fis Mawrth,” dywedodd Ellie. “Gyda’r cynnydd yn y galw am staff, roedd rhaid i mi flaenoriaethu fy swydd a sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda fy nheulu gwaith er mwyn trechu’r feirws difrifol yma.

“Er ei fod yn gyfnod ansicr ac ofnus, rydw i a fy nghydweithwyr yn benderfynol y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y teuluoedd sy’n dod drwy’r drws yn cael y profiad geni mwyaf rhyfeddol posib.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Ellie wedi bod yn gweithio’n rhan amser yn yr ysbyty, ochr yn ochr â’i hastudiaethau yn CAVC.

“Mae ymdopi ag ymrwymiadau gwaith a’r Coleg wedi bod yn heriol ar adegau, ond rydw i’n ddiolchgar fy mod i wedi cael cefnogaeth ym mhob agwedd ar fy mywyd proffesiynol a phersonol,” meddai.

Mae Ellie yn cwblhau ei chwrs Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yn CAVC eleni ac mae’n symud ymlaen i brifysgol. Ei nod yw bod yn fydwraig.

“Heb fy nhiwtoriaid gwych, fy nghydfyfyrwyr ffenomenal, fy nghydweithwyr ysbrydoledig yn y gwaith a fy nheulu cariadus, ’fyddwn i ddim digon dewr i wneud y cam yma tuag at y brifysgol,” dywedodd. “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn y brifysgol ym mis Medi – dydw i ddim yn gallu credu bod fy nhro i wedi cyrraedd o’r diwedd i fod yn fyfyrwraig Bydwreigiaeth!”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio cwrs Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, cofrestrwch yma ar gyfer Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 CAVC lle gallwch gael gwybodaeth am y cwrs mynediad a gofyn cwestiynau ar yr amser mwyaf cyfleus i chi.