Mae myfyrwraig Mynediad i Nyrsio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Lucy Richards, yn helpu gydag ymateb y GIG i bandemig y Coronafeirws – gan weithio fel Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd ar wardiau Covid mewn ysbyty.
Mae’r ferch 25 oed o Ben-y-bont ar Ogwr yn gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru wrth gwblhau ei chwrs yn CCAF. Mae wedi bod yn Gynorthwy-ydd Gofal Iechyd yn yr ysbyty am flwyddyn a hanner.
“O dan amgylchiadau arferol, rydw i’n gweithio ym mhob rhan o’r ysbyty, ond yn ystod y pandemig rydw i’n gweithio ar y wardiau Covid,” esboniodd Lucy. “Mae fy rôl i fel Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd yn cynnwys llawer o gyfrifoldebau.”
Mae Lucy yn cynorthwyo cleifion gyda gofal personol a bwydo os oes angen, yn ogystal â darparu cefnogaeth emosiynol i gleifion a’u teuluoedd drwy gyfnodau anodd yn ystod eu hamser yn yr ysbyty. Mae hi hefyd yn cynorthwyo’r nyrsys gyda gweithdrefnau clinigol fel cymryd darlleniadau siwgr yn y gwaed, arsylwi a gwneud cofnodion ffisiolegol a helpu yn ystod argyfyngau fel ymatebion cyflym ac ataliadau cardiaidd.
Bydd Lucy yn dechrau yn y brifysgol ym mis Medi.
“Fe wnes i astudio Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Gofal Iechyd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro i gael y cymwysterau rydw i eu hangen i fynd ymlaen i astudio Bydwreigiaeth ar lefel prifysgol,” meddai. “Roedd y cwrs yn gyfle i mi ddysgu gwybodaeth a sgiliau perthnasol sydd wedi bod o fudd i mi wrth weithio ym maes gofal iechyd yn ystod y pandemig – mae hefyd wedi fy ngwneud i’n gyfathrebwr mwy effeithiol ac wedi rhoi mwy o hyder i mi.”
Yn y cyfamser, bydd yn parhau i weithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
“Mae gweithio ar y wardiau Covid yn creu anawsterau emosiynol oherwydd rydych chi’n dod yn ymwybodol iawn o’r risg o ddal y feirws a hyd yn oed mynd ag e adref i’ch teulu,” meddai Lucy. “Mae hefyd yn gallu bod yn anodd oherwydd yn ystod y pandemig yma mae’r staff yn wynebu mwy o brofedigaethau nag arfer ac mae hynny’n gallu effeithio arnom ni’n sicr.
“Er hynny, rydw i’n falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr a thîm mor anhygoel o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac rydw i’n teimlo ei fod wedi dysgu cymaint i mi, ac y bydd yn newid y ffordd rydw i’n gofalu am gleifion yn y dyfodol.”