Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro ar y brig yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

5 Mai 2020

Mae Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill mwy o fedalau yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2019-20 nag unrhyw sefydliad Addysg Bellach neu ddarparwr hyfforddiant arall yn y wlad.

Enillodd myfyrwyr o Grŵp CAVC gyfanswm o 35 o fedalau – 14 aur, 13 arian ac wyth efydd. Roedd y cystadlaethau y gwnaethant gymryd rhan ynddynt yn amrywio o Gyfrifeg, Atgyweirio ac Ailorffen Cerbydau Modur, ac wedyn Gofal Plant, Adeiladu, Seibr Ddiogelwch a TG, Gosodiadau Trydan, Gwallt a Harddwch, Technoleg Cerbydau Trwm, Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwerthiant Gweledol.

Hefyd roedd y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys enillwyr o Grŵp CAVC gydag aur ac arian i Gynorthwywyr Ffitrwydd, dwy fedal arian yn y Cyfryngau a medal efydd mewn Gwasanaeth Bwytai.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gosod y myfyrwyr gorau yn y wlad yn erbyn ei gilydd mewn gornestau pwysedd uchel sy’n rhoi sylw i amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Mae’r enillwyr yn gallu cymhwyso am rowndiau terfynol WorldSkills UK a mynd ymlaen i fod yn rhan o sgwad y DU ar gyfer Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills.

Dywedodd Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael dweud bod Grŵp CAVC wedi ennill y nifer mwyaf o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae’n gamp eithriadol ac fe hoffwn i longyfarch yr enillwyr a staff y Grŵp sydd wedi gweithio mor galed i hyfforddi eu dysgwyr i lefel mor uchel.

“Mae cystadlaethau fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn brofiad rhagorol i’r myfyrwyr wrth iddyn nhw eu gwthio a’u hysbrydoli i fod ar eu gorau ac rydw i’n eithriadol falch bod ein dysgwyr ni wedi dangos safonau mor uchel. Da iawn bawb!”

Dywedodd Aelod o WorldSkills UK Cymru a Phrif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro Mike James: “Llongyfarchiadau i holl fyfyrwyr ein Grŵp ni ar gyfres ragorol o ganlyniadau. Dydw i ddim yn gallu pwysleisio digon pa mor bwysig yw’r cystadlaethau sgiliau a’r rôl maen nhw’n ei chwarae mewn datblygu cyfres gadarn o sgiliau a chreu talent y dyfodol a fydd yn gallu ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

“Fy nod i yw cael cymaint o aelodau o Gymru â phosib yn Nhîm y DU yn WorldSkills Shanghai 2021 ac mae’r amrywiaeth eang o dalent a welwyd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn hynod addawol. Da iawn i bawb, yn staff a myfyrwyr, sydd wedi cymryd rhan.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli ACT, Richard Spear: "Mae’r cystadlaethau sgiliau’n ffordd wych i ddysgwyr wireddu eu potensial, a hefyd ysbrydoli eraill o ran beth sy’n bosib. Llongyfarchiadau enfawr i’n dysgwyr ni i gyd, ac i’n cydweithwyr ymroddedig sy’n eu cefnogi, ar eu cyflawniadau gwych yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru."

Grŵp CAVC yw’r grŵp coleg mwyaf yng Nghymru a gyda mwy na 30,000 o ddysgwyr yn cofrestru bob blwyddyn, mae yn neg uchaf colegau mwyaf y DU. Dyma’r darparwr mwyaf ar brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yng Nghymru ac mae’r Grŵp yn sbarduno cefnogaeth i bobl ifanc, cymunedau a busnesau ledled Prifddinas Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.

Mae teulu CAVC yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro, ACT Training ac ALS.