Mae myfyrwyr Barbro y Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cael hyfforddiant ar iechyd meddwl er mwyn helpu i atal hunanladdiad ymysg eu cleientiaid.
Daeth Tom Chapman, sylfaenydd Lions Barber Collective i salon urbasba'r Coleg i addysgu'r myfyrwyr i adnabod a chynghori cleientiaid gwrywaidd sy'n cael trafferthion â'u hiechyd meddwl. Mae menter BarberTalk yn ceisio galluogi barbwyr i adnabod yr arwyddion, holi am lesiant, gwrando a helpu drwy fod yn bont rhwng y cymunedau maent yn eu gwasanaethu a'r adnoddau sydd ar gael mewn man diogel, diduedd.
Dyweddod Tom Chapman, Lions Barber Collective: "Rydym wedi cael amser gwerth chweil yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Choleg Caerdydd a'r Fro i ddarparu ein hyfforddiant BarberTalk, sy'n galluogi myfyrwyr Barbro i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael, gofyn y cwestiynau cywir, gwrando gydag empathi ac yn ddiduedd, a'u hysbysu am yr adnoddau sydd ar gael i helpu eu cleientiaid.
"Roedd pob un o'r myfyrwyr yn dangos diddordeb, ac roeddynt eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth dda yn dangos empathi a doethineb. Nawr, ar ôl cwblhau BarberTalk, byddant yn barod i wynebu argyfwng a gallu darparu amgylchedd diogel i'w cleientiaid a galluogi Lions Barber Collective i gyrraedd mwy o bobl."
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Roedd yn bleser cael croesawu Tom Chapman a Lions Barber Collective i'r Coleg. Mae gwaith Tom a'i gydweithwyr yn hynod bwysig - mae llawer o ddynion sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael yn teimlo nad oes ganddynt neb i siarad ag ef, ond gellir gwneud rhywbeth ynghylch hyn drwy gael barbwr sy'n gallu adnabod yr arwyddion a chynnig cyngor a chefnogaeth.
"Bydd ein myfyrwyr barbro yn mynd allan i'r gymuned a bydd yr hyfforddiant hwn yn eu helpu i wneud cyfraniad gwerthfawr at lesiant y gymuned honno."
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Coleg Caerdydd a'r Fro mewn partneriaeth â noddwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dywedodd Dr Annie Procter, Cyfarwyddwr Bwrdd Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
"Rwy'n dra ymwybodol o'r effaith mae colli rhywun sy'n annwyl i chi i hunanladdiad yn ei roi ar unigolyn fel meddyg, mam, cyfaill a phartner. Gwyddom fod llawer o bobl sy'n teimlo'n ddigon anobeithiol i gyflawni hunanladdiad erioed wedi gofyn am gymorth gan wasanaethau iechyd meddwl, felly mae'r bartneriaeth hon yn arbennig."