Ieuan o Goleg Caerdydd a’r Fro yn cael blas ar lwyddiant, gan ennill y wobr am y Pwdin Gorau yn y twrnamaint coginio olympaidd

18 Chw 2020

Mae Ieuan Jones, myfyriwr Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi profi ei hun fel un o’r dysgwyr coginio gorau yn y byd drwy ennill gwobr y Pwdin Gorau yn Olympiad y Cogyddion Ifanc.

Cynrychiolodd y llanc 17 oed o Gasnewydd Gymru, gan gystadlu yn erbyn cogyddion ifanc eraill o 55 o wledydd yn y gystadleuaeth ryngwladol sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn India. Cafodd ei bourdalou gellyg gyda saws anglaise ei ddewis fel y Pwdin Gorau yn gyffredinol gan y beirniaid.

“Roeddwn i’n falch iawn o gynrychioli fy ngwlad ac rydw i’n hapus iawn gyda’r cyflawniad yma,” meddai Ieuan. “Roedd mynd i Olympiad y Cogyddion Ifanc yn brofiad wnaeth newid fy mywyd i yn sicr – fe welais i ochr wahanol i’r byd. 

“Dydw i heb fod yn India o’r blaen ac roedd yn braf agor fy llygaid i wahanol ddulliau o goginio allan yno. Hwn ydi’r peth gorau i mi ei wneud yn fy mywyd erioed hyd yma.”

Mae Ieuan, a gafodd ei fentora gan Gogydd Ddarlithydd CAVC, John Crockett, a ymunodd ag ef yn India, yn credu bod y profiad wedi rhoi mwy fyth o dân yn ei fol i lwyddo yn yr yrfa o’i ddewis mewn lletygarwch.

“Mae wedi fy helpu i yn sicr,” meddai Ieuan. “Mae wedi gwneud i mi fod eisiau bod yn llawer gwell yn y dyfodol a gwneud enw i mi fy hun a chael fy nghydnabod yn y diwydiant.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Rydyn ni i gyd mor falch o Ieuan – roedd yn erbyn rhai o gogyddion ifanc gorau’r byd ac fe enillodd y wobr! Mae hynny’n gyflawniad anhygoel ac rydw i’n siŵr y bydd y profiad yn un eithriadol fuddiol iddo.

“Mae ennill y Pwdin Gorau yn Olympiad y Cogyddion Ifanc nid yn unig yn dyst i waith caled a phenderfyniad Ieuan, ond hefyd i’r gefnogaeth mae wedi’i chael gan adran Lletygarwch ac Arlwyo CAVC a chan ei fentor, John Crockett, felly rydw i’n ddiolchgar iawn iddyn nhw i gyd.”