Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro a Gleision Caerdydd – cydweithio i gadw talent yn lleol

19 Chw 2020

Mae Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro yn ei phumed tymor ac mae’r canlyniadau mae wedi’u sicrhau yn dechrau cael effaith bositif ar chwaraeon yn y rhanbarth.

Mae partneriaeth gref gyda Gleision Caerdydd a’i Academi ei hun yn golygu nad oes raid i’r genhedlaeth nesaf o dalent rygbi deithio y tu allan i’r Brifddinas-ranbarth i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae Academi Rygbi CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno hyfforddiant a chyfleusterau chwaraeon o’r safon uchaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr symud ymlaen gyda’u gyrfaoedd chwaraeon gan astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.

Mae’n cael canlyniadau eisoes. Eleni arwyddodd capten cyntaf yr Academi, Ben Thomas, gontract ar lefel hŷn gyda Gleision Caerdydd a chafodd ei ddewis yn chwaraewr y gêm yn ei gêm gyntaf, yn erbyn Pau, yn y Cwpan Her. Hefyd CCAF yw noddwr Ben yn ystod ei dymor cyntaf.

Yn ddiweddar, mae pedwar chwaraewr arall o’r Academi wedi arwyddo contractau D18 gyda’r Gleision. Mae mwy nag 20 o chwaraewyr wedi cael cap ar lefelau amrywiol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf neu wedi mynd i ranbarthau eraill, ac mae Academi Rygbi CCAF yn parhau i dyfu a gweithio mewn partneriaeth â’r Gleision.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Fe wnaethon ni ddechrau’r Academi Rygbi er mwyn sicrhau cydbwysedd o ran dyheadau pobl ifanc sydd eisiau dyfodol mewn rygbi a’u hastudiaethau academaidd. Rydw i mor falch o’n llwyddiannau ni – mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i brifysgol, gyrfaoedd a llwyddiant gyda’r Gleision.

“Rydyn ni’n hynod falch o Ben Thomas sydd wedi cael lle yn nhîm cyntaf y Gleision, a mynd i brifysgol ar ôl gadael CCAF.

“Fel partner coleg swyddogol balch Gleision Caerdydd, rydyn ni’n sicrhau bod y myfyrwyr nid yn unig yn cyflawni mewn rygbi, ond hefyd yn cael cymwysterau i’w rhoi mewn lle da ar gyfer gyrfa yn y dyfodol, ar ôl rygbi.”

Dywedodd Prif Weithredwr Gleision Caerdydd, Richard Holland: “Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn rhan hynod bwysig o’n cynnydd ni mewn rygbi a’n Hacademi ni yma yng Ngleision Caerdydd. Mae gennym ni stori wych gyda Ben Thomas sydd wedi dod drwy CCAF yn ein system Academi o dan fentoriaeth y Coleg a nawr mae gennym ni bedwar o fois ar raglen yr Academi sydd wedi dod o Goleg Caerdydd a’r Fro.

“Ond mae’r berthynas yn mynd yn llawer pellach na hynny – mae Parc yr Arfau yn dir cartref i dîm Coleg Caerdydd a’r Fro. Hefyd, mae llawer o’n chwaraewyr ni yn y sgwad hŷn yn symud ymlaen i gyrsiau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro felly mae’n berthynas sy’n rhan o’n busnes ni i gyd.

“Mae’r Pennaeth Kay Martin yn ymddiriedolwr gyda’n sefydliad cymunedol ni ac felly nid dim ond rygbi yw’r ffocws; mae’n ymwneud ag ymgysylltu cymunedol. Mae’n rhan enfawr o Leision Caerdydd ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y berthynas ac mae’n un sy’n gweithio’n wych.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi CCAF Martyn Fowler: “Os ydych chi eisiau dod i Goleg Caerdydd a’r Fro a chwarae gyda’r Academi Rygbi rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n datblygu’r person cyfan o’r ochr academaidd ac o bersbectif rygbi. Rydyn ni’n darparu llwybr sy’n rhoi cyfle i ieuenctid chwarae mewn gemau uchel eu proffil – rydyn ni wedi teithio i Japan i chwarae yn Nhwrnamaint Ieuenctid y Byd Sanix ac, yn 2021, byddwn yn teithio i Dde Affrica.

“Mae’r Academi’n eithaf ifanc ond yn dal i dyfu. Mae’r chwaraewyr wedi cymryd rhan mewn rygbi D18 rhanbarthol ac mae’r chwaraewyr wedi cael cap ar lefelau amrywiol ac rydyn ni’n gweld cynnydd yn awr i’r gêm broffesiynol gyda’n cyn gapten ni Ben Thomas. Y nod yw dal ati i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw bob blwyddyn.”

Dywedodd un o chwaraewyr Gleision Caerdydd a chyn aelod o Academi Rygbi CCAF, Ben Thomas: “Fe wnes i ddewis astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan mai hwnnw oedd y cam naturiol ymlaen i mi yn dod o Ysgol Uwchradd Corpus Christi.

“Roedd gen i botensial i fynd draw i Loegr i astudio mewn ysgol yno ond roedd mynd i Goleg Caerdydd a’r Fro yn gwneud synnwyr i mi oherwydd y cyswllt gyda Gleision Caerdydd.

“Roedd fy mhrofiad i yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn un da iawn – roedd o help i mi ddatblygu ar ac oddi ar y cae rygbi. Mae’r ffordd rydych chi’n gallu cael cydbwysedd rhwng eich gwaith academaidd a’ch datblygiad rygbi wir yn dda – mae’r ddarpariaeth rygbi o’r safon uchaf ac yn cynnig popeth y mae arnoch chi ei angen i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol.

“Rydw i wedi arwyddo fy nghontract proffesiynol cyntaf gyda Gleision Caerdydd eleni ac mae wedi bod yn dymor o dorri trwodd i mi. Mae cael cyfle i chwarae ym Mharc yr Arfau o flaen torf gartref yn anhygoel ac yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed.”