Ymdrech wych Naim - dysgwr Moduron yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro – i gyrraedd rhestr fer Myfyriwr y Flwyddyn IMI

18 Chw 2020

Mae Naim Ahmed, dysgwr Ailorffen Cerbydau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi cyrraedd rhestr fer am Wobr anrhydeddus gan Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI).

Allan o bawb yn cystadlu yn y DU, mae Naim ymhlith y tri olaf ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Myfyriwr Llawn Amser y Flwyddyn IMI. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghinio Canmlwyddiant y Sefydliad fis nesaf.

Dywedodd Naim: “Roedd yn syndod mynd drwodd yn erbyn cymaint o bobl ac rydw i ychydig yn nerfus am y seremoni ei hun, ond rydw i wir yn gyffrous ac yn hapus hefyd. Dydw i erioed wedi cyflawni rhywbeth fel hyn o’r blaen.

“Mae’n wobr eithaf arbennig ac rydw i’n synnu ’mod i ar y rhestr fer. Rydw i eisiau diolch i fy nhiwtoriaid i am eu holl gefnogaeth i mi.”