Cafodd Coleg Caerdydd a’r Fro lwyddiant ysgubol yng Ngwobrau Sgiliau Creadigol a Diwylliannol Cymru, gan ennill mewn tri chategori.
CCAF oedd yn cynnal y gwobrau, oedd yn cyd-fynd â lansio Cymru Greadigol gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi ac annog y diwydiannau creadigol.
Enillodd Megan O’Brien, myfyrwraig Gradd Sylfaen mewn Ffilm yn y Coleg, wobr Myfyriwr Creadigol y Flwyddyn Cymru. Dewiswyd Megan am fynd yr ail filltir bob amser gan gynrychioli’r Coleg ar drip Erasmus i Sbaen ac wedyn rhoi cyflwyniad yn seiliedig ar ei phrofiadau mewn cynhadledd academaidd.
Yn rheoli briff byw ar gyfer CCAF ar hyn o bryd i ddatblygu a chreu strategaeth farchnata ar gyfer ei chwrs, mae Megan yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu ei gyrfa.
Roedd y Darlithydd Ffilm a Chyfryngau, Cristina Raad, yn gydenillydd Gwobr Tiwtor Creadigol y Flwyddyn Cymru. Mae Cristina yn dod ag ymarferwyr y diwydiant i’r Coleg yn rheolaidd, i weithdai i ddatblygu profiad y dysgwyr.
Hefyd mae wedi rhoi hwb i gyflogadwyedd ei myfyrwyr drwy gydlynu rhaglen Erasmus ryngwladol deilwredig gyda phartneriaid yn Sbaen.
Enillodd tîm Addysg CCAF Wobr Cydweithredu Creadigol y Flwyddyn Cymru am ei waith gydag Academi Cyfryngau Caerdydd. Mae CCAF a’r Academi wedi gweithio mewn partneriaeth am saith mlynedd gan ddarparu addysg a chefnogaeth mewn amrywiaeth eang o sgiliau cyfryngau i bobl agored i niwed ac anodd eu cyrraedd, gyda llawer ohonynt yn symud ymlaen i fod yn fyfyrwyr llawn amser yn y Coleg.
Enillodd Iestyn James, dysgwr gyda phartner CCAF Rubicon Dance, Wobr Dysgwr Creadigol y Flwyddyn Cymru am ei waith fel model rôl ac esiampl dda o sut gall pobl ifanc ysbrydoli eraill.
Dywedodd Dirprwy Bennaeth CCAF, Sharon James: “Rydyn ni ar ben ein digon o fod wedi ennill y gwobrau, o ran ein myfyrwyr, y staff a’r gwaith i ehangu’r cyfranogiad mewn addysg greadigol, yn y Gwobrau Sgiliau Creadigol a Diwylliannol cyntaf yma yng Nghymru. Fe hoffwn i longyfarch yr enillwyr i gyd.
“Mae’r diwydiannau creadigol yn faes twf enfawr i Gymru ac yn CCAF rydyn ni eisiau bod ar flaen y gad, gan gefnogi’r twf hwnnw a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol. Mae ennill y dair gwobr yma’n dyst i waith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr ni a’n staff – rydw i mor falch ohonyn nhw.”