Dim sioc wrth i Kaiden o Goleg Caerdydd a’r Fro ennill gwobr Prentis Trydan y Flwyddyn Cymru

6 Chw 2020

Mae Kaiden Ashun, dysgwr Gosodiadau Trydan yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, wedi cael ei goroni fel y prentis trydan gorau yng Nghymru.

Yr wythnos yma cynhaliodd y Coleg rowndiau rhanbarthol Cymru cystadleuaeth Prentis Trydan y Flwyddyn y DU ar ei Gampws yn y Barri. Daeth Kaiden i’r brig gan ennill ar gasgliad nodedig o offer a bydd yn mynd ymlaen yn awr i gystadlu yn Rownd Derfynol y DU ym mis Mawrth.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i Kaiden – ’dyw ennill y rownd Cymru gyfan yng nghystadleuaeth Prentis Trydan y Flwyddyn ddim yn dasg hawdd! Hefyd fe hoffwn i longyfarch staff y Coleg sydd wedi gweithio mor galed i gefnogi Kaiden a’i hyfforddi i safon mor uchel.”