Coleg Caerdydd a’r Fro yn ennill gwobr genedlaethol am ei ddull o weithredu gyda chynhwysiant ac amrywiaeth

2 Chw 2020

Mae dull Coleg Caerdydd a’r Fro o weithredu drwy drin pawb yn deg a gyda pharch wedi ennill gwobr ledled y DU iddo gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.

Cafodd ymrwymiad y Coleg i degwch, parch, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltu (FREDIE) ei gydnabod gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth yn ei Gwobrau Blynyddol. Hefyd mae’r Coleg wedi symud o’r 15fed i’r 12fed safle ym Mynegai 100 Uchaf y Ganolfan yn y DU.

Penderfynir ar Fynegai’r 100 Uchaf gan ganlyniadau arolygon a staff a defnyddwyr sefydliadau sydd wedi dechrau ar yr achrediad gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.

Mae gwobr y Ganolfan yn cydnabod y gwaith arwyddocaol mae’r Coleg yn ei wneud yn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Yn benodol, mae’n cyfeirio at fenter REACH+ y Coleg, sy’n darparu hwb canolog ar gyfer y rhai sy’n dysgu Saesneg fel Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), sydd wedi gwella’r ddarpariaeth o gyrsiau priodol ar gyfer y bobl briodol a lleihau rhestri aros.

Roedd rhaglen gychwynnol REACH yn llwyddiant mor nodedig fel bod Llywodraeth Cymru wedi ei hehangu ledled Cymru, a’i chyfuno gyda ReStart: prosiect Integreiddio Ffoaduriaid i ddarparu cefnogaeth mewn siop un stop.

Canmolodd y beirniaid CCAF hefyd am lansio Adnodd Ymwybyddiaeth Iechyd a Chanser ESOL – pecyn o adnoddau addysgol. Mae’n cael ei gynnig mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fel y darparwr mwyaf ar gyrsiau ESOL yng Nghymru, mae’r Coleg mewn sefyllfa dda i estyn allan at gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALlE) ar draws y Brifddinas-Ranbarth a thu hwnt. Mae ymchwil wedi canfod bod pobl o’r cymunedau hyn yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio canser cenedlaethol a’u bod yn llai ymwybodol o arwyddion a symptomau canser a’r adnoddau sydd ar gael i roi sylw iddynt.

Nid oedd y beirniaid yn gallu dewis y fenter i’w gwobrwyo ac felly eu penderfyniad oedd cydnabod “y gwaith rhagorol mae eich sefydliad yn ei wneud i hybu FREDIE”.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro Kay Martin: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr yma am ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod pob cymuned mae’r Coleg yn eu gwasanaethu’n teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys.

“Hefyd rydyn ni’n falch iawn o fod wedi symud i fyny ym Mynegai 100 Uchaf y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth eto. Mae gweithio gyda’r Ganolfan wedi bod yn elfen allweddol o’n hymdrechion parhaus ni i hybu cynhwysiant ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddal ati i weithio mewn partneriaeth â hwy.”