Coleg Caerdydd a’r Fro yn lansio prentisiaeth newydd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

3 Chw 2020

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o swyddogion tân yn y rhanbarth.

Am y tro cyntaf, bydd hyfforddeion y Gwasanaeth yn cwblhau cynllun prentisiaeth pwrpasol i feithrin sgiliau a gwybodaeth hanfodol ar eu siwrnai at fod yn swyddogion tân.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cydnabod bod rôl swyddog tân wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd a’i bod bellach yn cynnwys addysg, ymgysylltu a chyfrifoldebau lleihau risg ochr yn ochr â’r rôl ymatebol draddodiadol. Felly, fel rhan o’i waith i ddatblygu hyfforddiant, mae’r Gwasanaeth wedi ffurfio partneriaeth gyda CCAF i gyflwyno prentisiaeth swyddog tân newydd.

Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r darparwr mwyaf ar brentisiaethau yn y wlad ac mae ganddo hanes cyfoethog o ddatblygu rhaglenni prentisiaeth unigryw i gefnogi twf yn y sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr, fel Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ar draws y rhanbarth.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys sgiliau hanfodol fel rhifedd a llythrennedd digidol, a fydd yn cael eu darparu ar y safle yn y coleg. Wedyn symud ymlaen i Ganolfan Hyfforddiant a Datblygu fodern ym Mhorth Caerdydd, cyfleuster ar y cyd gyda’r cwmni rhyngwladol Babcock.

Bydd y brentisiaeth yn sicrhau bod yr hyfforddeion newydd wedi’u paratoi’n dda i ymateb i argyfyngau byw, achub bywydau ac eiddo, a hefyd gwarchod yr amgylchedd. Bydd disgwyl i brentisiaid gyflawni dyletswyddau amrywiol, gan gynnwys gweithio’n agos â’r gymuned leol i gynyddu lefel eu hymwybyddiaeth o ddiogelwch er mwyn helpu i atal tanau a digwyddiadau eraill.

Bydd y prentisiaid yn hybu diogelwch tân a safonau diogelwch tân yn y gymuned, yn berthnasol i warchod bywyd ac eiddo rhag tân a risgiau eraill. Bydd y cwrs yn cynnwys darlithoedd rheolaidd, ymarferion a hyfforddiant swyddog tân ymarferol sy’n cynnwys popeth o ffitrwydd i ymarferion, sgiliau diogelwch tân ac ymarferol, fel gweithdrefnau cyfarpar anadlu, hyfforddiant ystol, rheoli pibellau diffodd tân a gweithrediadau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd.

Ar ôl y cwrs, bydd y prentisiaid yn symud wedyn i Orsafoedd Tân lle byddant yn parhau â’u datblygiad gan wasanaethu cymunedau De Cymru. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth ddwy flynedd yn llwyddiannus, byddant yn swyddogion tân gweithredol medrus.

Dywedodd Gareth Evans, Rheolwr Hyfforddiant gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Bydd y brentisiaeth swyddog tân newydd yma’n sicrhau bod gan ein hyfforddeion wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau priodol i fod yn fedrus yn eu rôl. Nod y rhaglen gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yw diwallu anghenion swyddog tân modern sydd angen gallu newid o rôl adweithiol yn ymateb i argyfyngau byw i rôl fwy ataliol sy’n cynnwys addysgu ein cymunedau ni am gadw’n ddiogel.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro Kay Martin: “Mae’n bleser cael llunio’r bartneriaeth yma gyda Gwasanaeth Tân De Cymru, gan gynnig dysgu yn y gwaith i’r gwasanaeth rheng flaen hanfodol yma. Mae’n gyfle hynod gyffrous i ni yn CCAF i wasanaethu ein cymuned ymhellach drwy leihau risg ac mae’r rhaglen yn profi’n eithriadol boblogaidd eisoes.”

Bydd y brentisiaeth yn dechrau gyda’r criw newydd o swyddogion tân fis Mawrth eleni.